MAE grisiau’r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd yn cael eu ffensio i annog pobl i beidio ag ymgynnull mewn grwpiau ar adeg pan fo cyfyngiadau Covid-19 yn dal i fod ar waith.
Mae’r ffensys, a gaiff eu codi cyn y penwythnos, yn cael eu gosod gan Gyngor Caerdydd yn dilyn trafodaethau gyda Heddlu De Cymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:
“Mae’r tywydd gwell dros yr ychydig benwythnosau diwethaf wedi golygu bod niferoedd cynyddol o bobl yn ymgynnull ym Mae Caerdydd.
“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn parhau i ufuddhau i’r rheolau, ond mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan. Y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ei eisiau yw i’r holl waith da ddadwneud y gostyngiad yn nifer yr achosion cadarnhaol yng Nghaerdydd a ninnau wedi gwneud mor dda.”
Codwyd ffensys tebyg yr haf diwethaf yn dilyn y sawl achos o bobl yn ymgynnull ar y grisiau y bu rhaid galw ar yr heddlu i’w gwasgaru, a defnyddio staff ychwanegol y cyngor i wneud gwaith glanhau enfawr a gostiodd filoedd o bunnoedd i drethdalwyr.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m