MAE Cyswllt Ffermio wedi canfod ffordd arloesol o ymateb i’r ffaith bod digwyddiadau ar ffermydd wedi cael eu gohirio ar gyfer yr haf drwy gynnal cyfres o ddarllediadau digidol byw oddi ar ei safleoedd arddangos.
Bydd y darllediadau hyn yn mynd â’r digwyddiadau i ffermwyr, gan alluogi Cyswllt Ffermio i barhau i ymgysylltu â nhw yn ystod y pandemig.
Dywed Dewi Hughes, Rheolwr Technegol Cyswllt Ffermio, y bydd y darllediadau ar-lein yn sicrhau bod ffermwyr yn dal i allu ymuno hyd yn oed pan na allant ddod ynghyd ar y fferm tra bod mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau teithio mewn grym.
“Bydd ffermwyr yn gallu gweld drostynt eu hunain o gysur eu cartrefi sut mae technoleg newydd a gwahanol dechnegau rheolaeth yn gallu newid eu harferion ffermio,” meddai Mr Hughes.
Bydd yr holl ddigwyddiadau yn dechrau am 19:30 ac yn cael eu ffrydio yn fyw ar blatfform Zoom. Bydd cyfle i glywed wrth ffermwyr y safleoedd arddangos ynghyd â chlipiau fideo o’r ffermydd, a bydd y swyddogion technegol sy’n gyfrifol am y prosiectau unigol ac arbenigwyr ac ymgynghorwyr y prosiect yn rhoi cyflwyniadau ac yn ymuno yn y drafodaeth drwy gyswllt byw.
Bydd y digwyddiadau 90 munud o hyd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys rheoli pridd a glaswelltir, cnydau, geneteg, ffrwythlondeb, cynhyrchu wyau dofednod a thechnoleg synwyryddion.
Bydd cyfle i ffermwyr ryngweithio yn ystod y digwyddiadau hyn trwy gyflwyno cwestiynau i’r ffermwyr a’r panel o arbenigwyr.
Gweler yr amserlen arfaethedig ar gyfer y digwyddiadau isod:
Dyddiad | Amser | Safle Arddangos | Prif bwnc y digwyddiad |
08/07/2020 | 19:30 | Moelogan Fawr, Llanrwst
|
Buddion technoleg newydd i ganfod buchod yn gofyn tarw ar gyfer gwella perfformiad a phroffidioldeb y fuches sugno. |
22/07/2020 | 19:30 | Mountjoy,
Hwlffordd |
Croesawu technoleg genomeg i fridio buchod cyfnewid a lleihau mewnbynnau nitrogen trwy ddefnyddio meillion. |
05/08/2020 | 19:30 | Rhiwaedog, Y Bala | Gwerthuso buddion technoleg i ganfod pan fo buchod yn gofyn tarw i sicrhau enillion o ran ffrwythlondeb y fuches sugno.
Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa. |
19/08/2020 | 19:30 | Wern,
Y Trallwng |
Archwilio’r amodau amgylcheddol gorau posibl ar gyfer ieir dodwy maes h.y. aer, gwastraff a dŵr i wella iechyd yr adar ac felly cynhyrchiant a phroffidioldeb. |
02/09/2020 | 19:30 | Graig Olway,
Brynbuga |
Canolbwyntio ar symudedd gwartheg, storio slyri ac isadeiledd. |
16/09/2020 | 19:30 | Dolygarn,
Y Drenewydd |
Opsiynau porthiant amgen i wella cynhyrchiant a lleihau’r effaith amgylcheddol ar fferm ucheldir. |
Bydd manylion am sut i gael mynediad i’r digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar galendr digwyddiadau ar-lein Cyswllt Ffermio ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m