04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dathlu gwaith Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyda’r gymuned dementia ar teledu

MAE gwaith Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyda’r gymuned dementia yn cael ei ddathlu mewn rhaglen deledu sy’n edrych ar y datblygiadau sy’n torri tir newydd i gynorthwyo pobl gyda’r clefyd.
Mae’r rhaglen Hope in the Age of Dementia yn dangos sut mae’r Ymddiriedolaeth wedi cael cymorth pobl gyda dementia i siapio a darparu hyfforddiant ar draws y gweithlu.

Mae’r rhaglen, sy’n fenter ar y cyd gan ITN Productions ac Alzheimer’s Disease International, yn clywed gan arweinyddion ym meysydd niwrowyddoniaeth, ymchwil a datblygu cyffuriau.

Dywedodd Alison Johnstone, Rheolwr Rhaglen Dementia Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae defnyddio ambiwlans yn medru bod yn brofiad llawn straen yn aml i bobl sy’n byw gyda dementia – p’un ai mewn argyfwng neu daith gynllunedig.

“Rydym ni’n gwneud ein gorau glas i ddeall anghenion pobl sy’n byw gyda dementia fel y medrwn ni gryfhau a gwella ein gwasanaethau’n y dyfodol.

“Yr hyn sydd wedi bod yn wych yw bod pobl sy’n byw gyda dementia wedi’u cynnwys yn y gwaith hwnnw a nhw sydd flaenaf ac yn ganolog, yn darparu’r hyfforddiant gyda ni, ac i ni.”

Mae pobl gyda dementia wedi cael eu gwahodd i Ganolfannau Cyswllt Clinigol yr Ymddiriedolaeth hefyd, i weld sut mae galwadau 999 yn cael eu brysbennu, yn ogystal ag i orsafoedd ambiwlans, i gynnig eu barn ar sut mae pobl gyda dementia yn dirnad y cerbydau, yr offer a’r wisg.

Mae Linda Willis, o Gasnewydd, a gafodd ddiagnosis dementia yn 61 oed, wedi bod ymhlith y rhai fu’n ymwneud â’r gwaith.

“Mae wedi rhoi gymaint o hwb i fy hyder i, fedra i ddim canmol y gwasanaeth ambiwlans ddigon,” meddai.

“Maen nhw’n gwrando go iawn ar yr hyn mae pobl gyda dementia ei eisiau a’i angen gan y gwasanaeth, ac wedi darparu hynny, ac mae hynny’n golygu cymaint.”

Mae dementia’n effeithio ar fwy na 50 miliwn o bobl ledled y byd, a disgwylir i’r nifer yma gynyddu fwy na theirgwaith erbyn 2050.

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i wireddu gwaith yr Ymddiriedolaeth.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae gwaith arloesol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i wella profiadau pobl sy’n byw gyda dementia yn adlewyrchu’r nodau yn ein Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia, sy’n cydnabod y gwahanol ffyrdd y mae pobl sy’n byw gyda dementia angen cymorth a chefnogaeth.

“Mae’r dull cyd-gynhyrchu hyn o ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant yn dangos gwerth gwrando ar bobl sy’n byw gyda dementia ac yn sicrhau bod gwasanaethau’n canolbwyntio ar yr unigolyn.” 

Ychwanegodd Claire Roche, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio’r Ymddiriedolaeth: “Mae gwybod sut i adnabod dementia ac ymateb yn briodol yn medru gwneud gwahaniaeth mawr i’r cymorth, gofal a thriniaeth a roir i glaf.

“Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i glywed am eu profiadau, fel y medrwn ni wneud ein gwasanaethau hyd yn oed yn well ar eu cyfer nhw.

“Mae’r rhaglen hon yn gyfle anhygeol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru arddangos ei waith ym maes dementia a hyrwyddo’r rhaglen gyffrous ar gyfer dementia sydd gennym ni yng Nghymru.”

Gellir gwylio Hope in the Age of Dementia yma.

%d bloggers like this: