04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dedfryd o garchar i gyfarwyddwr Crystal Style Home Improvements

MAE dedfryd o gyfnod dan glo a roddwyd i gyfarwyddwr cwmni gwneud gwelliannau i dai oedd wedi manteisio ar gwsmeriaid bregus a gwneud cyfres o honiadau ffug wedi cael ei groesawu gan Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Ddiogelwch y Gymuned a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Leanne Jones.

Cafodd Richard John Evans, o Brook Street, Port Talbot, cyfarwyddwr Crystal Style Home Improvements Ltd, ei ddedfrydu i 34 mis yng ngharchar yn Llys y Goron Abertawe wythnos diwethaf, ar ôl i ymchwiliad gael ei gynnal am dair blynedd gan Adran Safonau Masnach y Cyngor.

Yn ogystal â’r cyfnod o 34 mis dan glo a roddwyd i Richard John Evans, cafodd David Gater, y canfuwyd ei fod yn gweithredu fel ‘lefftenant’ i Mr Evans, ddedfryd o 21 mis yng ngharchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, ac fe’i gorchmynnwyd i wneud 200 awr o waith cymunedol di-dâl. Rhoddwyd 24 mis yng ngharchar i Stephen Garvey, wedi’i ohirio am 24 mis, gyda gorchymyn cyrffyw o 10 wythnos rhwng 8pm a 7am.  Yn ogystal, mae achos Enillion Troseddau ar y gweill yn erbyn Mr Garvey.

Mae Crystal Style Home Improvements Ltd, a SDG Home Improvements, bellach wedi cael eu diddymu.

Meddai’r Cynghorydd Jones:

“Rydyn ni’n croesawu’r dedfrydau a roddwyd ac yn falch fod y llys wedi cydnabod y golled ariannol a’r niwed meddyliol a wnaed i’r dioddefwyr. Mae Safonau Masnach yn sefyll yn gadarn o ran ymchwilio i fusnesau sy’n wfftio’r gyfraith ac yn targedu pobl fregus yn ein hardal.

“Mae’r gwasanaeth wrthi’n hybu cynllun cymeradwyo masnachwyr Prynu’n Hyderus / Buy With Confidence a redir gan Safonau Masnach yn genedlaethol, ac anogir masnachwyr cyfreithlon a chyfrifol yng Nghastell-nedd Port Talbot i ymuno â’r cynllun. Gallan nhw wneud ymholiadau gyda’r adran i ymuno a dylai defnyddwyr lleol wirio gwefan Prynu’n Hyderus i weld a yw masnachwyr yn gymeradwy.”

Daeth Crystal Style Home Improvements Ltd, oedd yn masnachu allan o 3, Siambrau’r Banc Uchaf, Llansawel, Castell-nedd, i sylw swyddogion Safonau Masnach am y tro cyntaf ym mis Mai 2018, ar ôl canfod eu bod yn honni – yn anghywir – eu bod wedi’u cofrestru â Certass, cymdeithas fasnach y diwydiant ffenestri. Cyfarfu’r swyddogion â’r cwmni am y tro cyntaf i’w cynghori am yr honiadau argraffedig a llafar (wrth werthu dros y ffôn) ffug roedden nhw’n eu gwneud fel rhan o’u hymgais werthu, a chyflwynwyd y cyngor unwaith eto, yn ysgrifenedig.

Erbyn mis Hydref 2018, roedd swyddogion Safonau Masnach yn derbyn cwynion am Crystal Style Home Improvements o bob cwr o dde Cymru, gan gynnwys cwyno am arferion gwerthu camarweiniol, tactegau gwerthu oedd yn rhoi pwysau mawr ar bobl, a gwrthod rhoi ad-daliad pan fyddai prynwyr yn canslo o fewn y cyfnod callio.

Clywodd y llys fod tactegau gwerthu ymosodol yn cael eu defnyddio, oedd yn cynnwys gweld gwerthwyr yn aros yng nghartrefi cwsmeriaid am gyfnodau hyd at bum awr, a phrisiau artiffisial o ddrud yn cael eu dyfynnu gan werthwyr er mwyn cynnig yr hyn oedd yn ymddangos fel gostyngiadau hael. Pan fyddai gwaith yn digwydd, roedd o ansawdd tila ac ansafonol.

Symudodd Crystal Style i ganolfan alwadau yng Nghanolfan Fusnes Stryd y Dŵr ym Mhort Talbot. Roedd  Richard John Evans bellach yn gweithio gyda David Gater – a gyflogwyd fel rheolwr gwerthu.

Arweiniodd ymchwiliadau gan swyddogion Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot at gyflwyno gwarantau mewn sawl cyfeiriad. Roedd dogfennau a gasglwyd yn cysylltu Crystal Style ag SDG Home Improvements, a leolwyd yn Stryd yr Orsaf, Port Talbot.

Daeth yn amlwg fod Richard John Evans yn ceisio diddymu Crystal Style ac yn ceisio parhau i fasnachu fel ‘cyflogai’ i S Garvey & Co Limited, oedd yn masnachu dan yr enw SDG Home Improvements. Lleolwyd SDG Home Improvements ym Mhort Talbot a’i redeg gan Stephen Garvey.

Er nad oedd SDG Home Improvements yn gweithredu canolfan alwadau, a bod cwsmeriaid y cwmni wedi’u lleoli’n fwy lleol na rhai Crystal Style, roedd y tactegau gwerthu yr un mor anaddas. Talwyd symiau o arian dros £75,000 gan gwsmeriaid Crystal Style Home Improvements a SDG Home Improvements fel ei gilydd.

Plediodd Mr Evans a Mr Gater yn euog i droseddau’n ymwneud â Crystal Style Home Improvements yn ystod mis Rhagfyr 2019. Yn ddiweddarach, plediodd Richard John Evans a Stephen Garvey yn euog unwaith yn rhagor i droseddau’n ymwneud â SDG Home Improvements yn ystod mis Hydref 2020.

Daeth y tri diffinydd gerbron Llys y Goron Abertawe i gael eu dedfrydu ar 5 Mawrth 2021.

Dywedodd y Barnwr, y Cofiadur Malcolm Gibney, fod pob un o’r tri wedi twyllo’r cyhoedd, a bod Richard John Evans wedi “dweud celwydd” wrth bobl fregus er mwyn eu gwahanu oddi wrth eu harian. Daeth i’r casgliad fod y “cwsmer targed” yn oedrannus a bregus.

Os hoffech chi riportio unrhyw ddigwyddiad o’r fath, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 2231144, neu 0808 223113 i siarad â chynghorwr yn Saesneg.

%d bloggers like this: