03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE’R chwiliad wedi dechrau i ddod o hyd i gogyddion iach gorau Caerdydd mewn her newydd a lansiwyd gan Dîm Cyngor Ariannol a Gwasanaeth Dysgu Oedolion y Cyngor.

Bydd hanner cant o aelwydydd ar draws y ddinas yn cael y dasg o baratoi’r prydau iach gorau yn seiliedig ar ryseitiau iachus a maethlon a ddatblygwyd gan diwtoriaid Dysgu Oedolion.

Bydd pob egin gogydd yn derbyn blwch o gynhwysion iach ac offer coginio wedi’i anfon i’w gartref er mwyn iddo/iddi allu creu cyflenwad wythnos o brydau teuluol blasus trwy ddilyn y tiwtorialau fideo ar-lein a wneir gan Dysgu Oedolion, neu’r cardiau ryseitiau economaidd hawdd eu dilyn sydd wedi’u hamgáu.

Mae’r her wedi’i hwyluso trwy gyllid Llywodraeth Cymru fel rhan o’r dull Adeiladu Cymru Iachach trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, y cytunwyd arno gan ein partneriaethau strategol lleol, sy’n ceisio trawsnewid iechyd a lles trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd yr her goginio yn hybu arferion coginio a bwyta iach ymhlith preswylwyr sy’n cymryd rhan oherwydd bydd pob pryd bwyd yn cael ei ddewis yn ofalus ar sail ei werthoedd maethlon yn ogystal â’i gost-effeithiolrwydd.

Gall aelwydydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr her ddarganfod mwy a gwneud cais trwy e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.ukneu ffonio 029 2087 1071.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:

“Mae ein her coginio iach yn ffordd wych o ennyn diddordeb trigolion ledled y ddinas mewn bwyta’n iach a choginio, er mwyn helpu i gefnogi eu hiechyd a’u lles cyffredinol. Byddwn yn darparu’r holl gynhwysion sydd eu hangen ar bobl i goginio prydau maethlon i deulu o bedwar ac rydym yn gofyn iddynt anfon lluniau atom fel y gallwn farnu pa brydau bwyd sy’n edrych orau – yn anffodus, ni allwn gynnal profion blasu ar hyn o bryd!

“Yn ogystal â hybu bwyta’n iach a byw’n iach i bobl fel rhan o’r her, rydym yn gobeithio dangos ei bod yn bosibl bwyta’n dda ar gyllideb a rhannu awgrymiadau defnyddiol am sut i siopa ar gyllideb. Gobeithiwn y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn yr her yn ei chael yn ddefnyddiol gan ein bod yn gwybod bod llawer o bobl wedi cael trafferth fforddio bwyd a hanfodion dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Felly mae’r her hefyd yn gyfle i bobl ddarganfod mwy am wasanaethau’r cyngor a all eu helpu nhw hefyd, fel cefnogaeth gan ein Tîm Cyngor Ariannol, sydd wedi helpu miloedd o bobl sydd â phryderon ariannol. A gall ein Gwasanaeth Dysgu Oedolion, sy’n cynnal ystod eang o ddosbarthiadau hamdden gan gynnwys coginio, hefyd helpu pobl sy’n awyddus i uwchsgilio er mwyn dychwelyd i’r gwaith, neu i roi hwb i’w cyfleoedd mewn sector swyddi gwahanol.

“Mae’n ffordd ddefnyddiol i ni godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau ac rydym yn gobeithio y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn mwynhau’r her ac yn dysgu rhywbeth newydd. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan aelwydydd ym mhob rhan o’r ddinas a chogyddion o bob gallu – p’un a ydych eisoes yn gampus yn y gegin neu’n llosgi’r tost yn rheolaidd! Rhowch gynnig arni!”

Unwaith y bydd y 50 aelwyd wedi ymrwymo i’r her a bod eu bwyd wedi cyrraedd, bydd gan deuluoedd tan 31 Mawrth i anfon lluniau o’u campweithiau coginio i hybcynghori@caerdydd.gov.uk. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar sail cyflwyniad a pha mor flasus mae’r prydau bwyd yn edrych. Bydd cogyddion buddugol yn ennill taleb archfarchnad gwerth £150.

Pan fydd yr her wedi’i chwblhau, bydd y cardiau ryseitiau prydau iach ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn coginio’r prydau bwyd gartref yn www.cyngorariannolcaerdydd.co.uk tra bydd y tiwtorialau fideo ar gael i’w gwylio yn sianel YouTube Dysgu Oedolion Caerdydd

 

 

 

%d bloggers like this: