09/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Dim cynnydd yng nghost prydau ysgol ar gyfer 2021-22

NI fydd cost prydau ysgol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynyddu ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021-22 ar ôl i aelodau cabinet yr awdurdod lleol gytuno i rewi’r pris am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Mae’n golygu y bydd cost pryd bwyd ysgol gynradd yn aros ar £2.20.

Y fwrdeistref sirol sydd ag un o’r prisiau isaf yng Nghymru ar gyfer prydau ysgol.

Dywedodd Cynhorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

“Gydag effaith economaidd-gymdeithasol y pandemig coronafeirws yn effeithio ar lawer o deuluoedd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd parhau i rewi’r pris hwn ar gyfer prydau bwyd ysgol yn fwy nag erioed

Gwneir llawer iawn o waith wrth gynllunio ein bwydlenni prydau ysgol i sicrhau y byddant yn cynnig y cydbwysedd cywir o faeth i gynnal y plant a rhoi digon o egni angenrheidiol iddynt ar gyfer diwrnod prysur yn yr ysgol.”

Yn 2019-20, rhoddodd yr awdurdod lleol gymhorthdal o 20c i bob pryd ac mae hyn wedi cynyddu i 40c yn 2020-21.

Darparwyd dros filiwn o brydau bwyd poeth i blant ysgol yn ystod 2019-20 gyda thua 400,000 yn brydau ysgol am ddim.

%d bloggers like this: