03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE dros 4,000 o ymweliadau wedi’u gwneud â busnesau yn Sir Gâr ers dechrau pandemig Covid-19.

Ymwelodd swyddogion gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin â rhyw 16 o siopau ledled y sir dros y penwythnos, i roi cyngor a chymorth i fusnesau ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau’r coronafeirws.

Rhoddwyd hysbysiad cydymffurfio i Lidl yn Llanelli am arddangos eitemau nad ydynt yn hanfodol. Cafodd hysbysiadau cydymffurfio a gwella hefyd eu cyflwyno i Morrisons yn Llanelli, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wella’r mesurau sydd ar waith yno i gyfyngu ar ledaeniad Covid-19.

Mae rheoliadau lefel rhybudd pedwar Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylid arddangos eitemau nad ydynt yn hanfodol mewn siopau, er mwyn osgoi lledaeniad y feirws. Mae hyn yn gyfraith.

Dylai siopwyr, yn y lle cyntaf, siopa ar-lein. Os daw eitem yn hanfodol, gall y siop helpu os yw’r eitem honno mewn rhan o’r siop sydd wedi’i chau.

Ers mis Mawrth y llynedd mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflogi chwe swyddog gorfodi ychwanegol mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.

Lle roedd rhai materion yn achosi pryder, cyflwynwyd 31 o hysbysiadau gwella i fusnesau. Rhoddir 48 awr ac 14 diwrnod iddynt roi’r gwelliannau ar waith tra byddant yn parhau i fasnachu.

Mae 24 o hysbysiadau cau hefyd wedi’u cyflwyno pan fydd safle’n methu â gwella neu lle bo diffygion sylweddol o ran mesurau sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid a lle nad yw’n ddiogel caniatáu i’r busnes barhau i fasnachu. Mae pedwar Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 hefyd wedi’u cyflwyno am redeg busnes manwerthu ddylai fod ar gau oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol Covid-19, neu am weini alcohol ar ôl yr oriau a ganiateir.

Er bod yn rhaid i fusnesau gydymffurfio â rheoliadau Covid-19, disgwylir i bobl hefyd ddilyn y rheolau wrth wneud ymweliadau hanfodol â safleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Phillip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Ar y cyfan mae busnesau ar draws y sir yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau Covid-19, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am helpu i gadw eu staff, eu cwsmeriaid a Sir Gaerfyrddin yn ddiogel.

“Rhaid i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd hyn wneud eu rhan hefyd a chadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd oni bai eu bod wedi’u heithrio oherwydd problem iechyd benodol, a diheintio dwylo wrth gyrraedd a gadael. Yn ogystal, mae disgwyl i bobl siopa ar-lein gymaint â phosib. Os yw eitem hanfodol yn cael ei harddangos yn y siop ond nad oes modd i chi fynd ati, siaradwch ag un o’r staff. Cofiwch fod rheolau Llywodraeth Cymru yn gyfraith ac maent mewn grym i helpu i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.

Rydym i gyd yn wynebu’r her hon gyda’n gilydd ac mae’n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i gyfyngu ar ledaeniad yr haint a chadw ein sir yn ddiogel.”

 

 

 

 

%d bloggers like this: