04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Diwydiant lletygarwch yn barod i’ch croesawu chi yn ôl – ond byddwch yn ofalus

BYDD caffis, bwytai a bariau yn gallu eich croesawu chi yn ôl i’w hardaloedd awyr agored yr wythnos yma, ond yr un neges sydd gennym o hyd: Gwnewch eich rhan i helpu’r gymuned i aros yn ddiogel.

Mae llacio cyfyngiadau pandemig Llywodraeth Cymru’n golygu o heddiw (Ebrill 26)  gall busnesau lletygarwch weini cwsmeriaid yn yr awyr agored.

Fodd bynnag, gyda’r Coronafeirws angheuol yma o hyd, ni fydd pethau’n dychwelyd i’r drefn arferol.

Meddai Phil Holmes,Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Cyngor,

“Gallai ymddwyn yn anghyfrifol neu beidio â dilyn y rheolau arwain at gynnydd arall yng nghyfraddau’r feirws – felly byddwch yn gyfrifol ac arhoswch yn ddiogel.”

Ddydd Llun, bydd pethau’n dal i fod yn wahanol iawn i’r cyfnod cyn y pandemig. Dyma rai o’r gwahaniaethau:

Ni fydd yr holl leoliadau lletygarwch yn Abertawe ar agor; dylai ymwelwyr wirio gyda’r lleoliad a chadw lle ymlaen llaw cyn teithio, os yw’n bosib; caniateir i chi fwyta ac yfed wrth y bwrdd yn yr awyr agored yn unig – dim grwpiau; mae’r rheol cadw pellter cymdeithasol 2m yn berthnasol;  mae mangreoedd yn cymryd manylion cyswllt cwsmeriaid i helpu gyda phroses ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ Llywodraeth Cymru; a hefyd gofynnir i gwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw – gan gynnwys gwirio amserau agor, trefnu dulliau teithio a seddi mewn lleoliadau ymlaen llaw lle bo modd, a gwybod ble mae’r safleoedd tacsis ymlaen llaw.

Mae’r cyngor – gan gynnwys ei dimau trwyddedu, iechyd cyhoeddus a chanol y ddinas, BID Abertawe (Ardal Gwella Busnes), Heddlu De Cymru, busnesau ac eraill yn gweithio gyda’i gilydd i agor y sector lletygarwch fesul cam, yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Meddai Prif Weithredwr BID, Russell Greenslade,

“Mae busnesau’r ardal BID wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i baratoi ar gyfer ailagor canol y ddinas yn ddiogel. Dyma bennod hollbwysig ac mae’n bwysig bod pob un ohonom yn chwarae ein rhan i sicrhau bod pethau’n cael eu cynnal yn hwylus.”

%d bloggers like this: