July 23, 2021

Newyddion Cymru Ar-Lein : Wales News Online

Newyddion Lleol a Chenedlaethol Cymru – Local and National News for Wales

Gallai Cwr y Gamlas chwarae rhan allweddol wrth adfywio canol Dinas Caerdydd ar ôl COVID

GALLAI cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cwr y Gamlas newydd yng Nghaerdydd chwarae rhan fawr wrth helpu’r ddinas i wella ac adfywio ar ôl y pandemig.
Mae’r Cyngor wedi llunio uwchgynllun ar gyfer yr ardal sy’n ail-lunio dwyrain canol y ddinas fel ardal fywiog a phrysur – all ddarparu cartrefi, swyddi a mannau cyhoeddus deniadol y mae mawr eu hangen.

Wedi’i gynllunio i fanteisio ar gynlluniau i ailagor dyfrffyrdd cudd a hanesyddol y ddinas, byddai Cwr y Gamlas yn creu swyddi yn ystod ei gyfnod adeiladu ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth y mae mawr eu hangen ar ôl ei gwblhau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:

“Allwn ni ddim dianc rhag y ffaith bod y pandemig wedi effeithio’n andwyol ar ganol ein dinasoedd. Collwyd llawer o swyddi ar draws y sector manwerthu a lletygarwch eisoes. Dyna pam mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle sydd gennym i ddiogelu bywoliaeth pobl. Mae gennym gyfle i weithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i greu ardal newydd, a fydd nid yn unig yn gwella’r rhan hon o’r ddinas, ond hefyd yn darparu swyddi hanfodol i bobl sy’n byw yma. Gallai Cwr y Gamlas ddod yn ddatblygiad llwyddiannus, dwysedd uchel, defnydd cymysg, gan ddenu cartrefi, gwestai, lletygarwch, swyddfeydd o ansawdd uchel, hamdden ac unedau manwerthu.”

Mae creu’r ardal newydd hon yn golygu agor y gamlas. Mae’r Cyngor yn datblygu cam cyntaf y buddsoddiad ar hyd Ffordd Churchill, gan ddatblygu tir cyhoeddus gwyrdd gyda gerddi glaw, seddau awyr agored gyda golygfeydd o’r gamlas, ac ardal perfformio awyr agored ar ffurf amffitheatr. Ond y weledigaeth yw parhau i ailagor y gamlas ar hyd Ffordd Churchill a chysylltu â’r gamlas gyflenwi’r dociau i’r de o Stryd Tyndall.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway:

“Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol a bydd angen ei ariannu’n rhannol drwy gyfraniadau a buddsoddiad gan y sector preifat. Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Bydd angen inni weithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i wireddu’r cynllun. Yn union fel y gwnaethom pan gyflwynwyd Canolfan Dewi Sant ar yr Aes, pan alluogwyd Stadiwm y Mileniwm i aros yng nghanol y ddinas a phan wireddwyd y Sgwâr Canolog.

“Rydym yn hyderus y bydd agor y camlesi, a defnyddio ac integreiddio’r llu o strydoedd a lonydd clos yn yr ardal yn briodol, yn gweld Cwr y Gamlas yn datblygu personoliaeth wirioneddol wahanol yng nghanol y ddinas, rhywle y bydd pobl am ymweld ag ef a threulio amser ynddo.”

Mae sgyrsiau cychwynnol cadarnhaol eisoes wedi’u cynnal gyda thirfeddianwyr a rhanddeiliaid yn yr ardal, gan gynnwys Live Nation, lesddeiliaid presennol Arena Motorpoint.

Mae Live Nation eisoes wedi sicrhau’r hawliau i gynnal Arena 15,000 o seddi newydd Caerdydd fydd yn cael ei hadeiladu yn y Bae. Os bydd arena newydd y Bae yn mynd rhagddi yn ôl y disgwyl, bydd yn rhaid i Live Nation ystyried defnydd safle Motorpoint yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o adfywio’r safle’n gyfan gwbl mewn cydweithrediad â thirfeddianwyr cyfagos.

Bydd dyfodol Arena Motorpoint yn ystyriaeth bwysig yn y gwaith o adfywio Cwr y Gamlas, p’un a gaiff ei chadw, ei hail-bwrpasu neu ei dymchwel a’i hailddatblygu.

Mae trafodaethau’n parhau rhwng Live Nation a’r Cyngor, sy’n deiliad y rhydd-ddaliad ar y Motorpoint, am ddyfodol y safle.

Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo’r uwchgynllun mewn cyfarfod ddydd Iau, 20 Mai. Os cytunir arno, byddai hyn yn caniatáu i waith manwl ar brosiectau datblygu penodol gyda rhanddeiliaid ddechrau ynghyd â’r gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd ar yr uwchgynllun.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway ymhellach:

“Mae ardal Cwr y Gamlas yn cynnwys nifer o dirfeddianwyr a buddiannau ac felly bydd gan y Cyngor rôl arweiniol sylweddol o reidrwydd o ran dwyn ynghyd strategaeth ddatblygu gydgysylltiedig er budd y ddinas gyfan. Rydym yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ar yr uwchgynllun. Bydd barn y cyhoedd yn helpu i lywio ein sgyrsiau gyda thirfeddianwyr a rhanddeiliaid. Mae trafodaethau cychwynnol eisoes wedi’u cynnal, ond mae’n bwysig nawr ein bod yn ceisio ennyn diddordeb yn yr uwchgynllun.”

Mae’r uwchgynllun yn cynnwys chwe egwyddor allweddol am yr ardal newydd hon, a fyddai’n cael ei ffinio gan Heol y Frenhines ac yn mynd o Rodfa’r Orsaf i amgylchynu Arena Motorpoint ac yn ymestyn mor bell â Lôn y Barics yn y gorllewin:

Mae dwyrain canol y ddinas yn borth pwysig i Gaerdydd a fydd yn dod yn bwysicach fyth wrth gyflawni Prosiect Metro De Cymru. Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines yw’r ail brysuraf yng Nghymru;

Gallai’r ardal o amgylch ac sy’n cynnwys Arena Motorpoint, os caiff ei hailddatblygu, fod yn gyfle pwysig ar gyfer datblygiad trefol dwysedd uchel;

Mae ailagor ac ymestyn y gamlas drwy’r rhan hon yn gyfle i greu ardal â chymeriad newydd ac unigryw yng nghanol y ddinas;

Mae cyfle clir i greu sgwâr cyhoeddus mawr a newydd, nifer o fannau gwyrdd ac ardaloedd adloniant/perfformio a allai helpu i fywiogi canol y ddinas;

Mae cyfleoedd sylweddol yn bodoli i wella teithio llesol a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ochr yn ochr â gwneud canol y ddinas yn wyrddach; a hefyd,

Gellid rheoli’r rhwydwaith o strydoedd tyn gan gynnwys Stryd y Bont, Heol David, Heol Charles, Stryd Tredegar, Cilgant Guildford a Lôn y Barics i greu ardal newydd fywiog o lonydd yng nghanol y ddinas.

Like what we Do? Donate here to support our free independent community news service
Help support our free independent community news service: CLICK to donate

You cannot copy content of this page

error: You are in breach of copyright
%d bloggers like this: