BYDD plant a phobl ifanc sy’n gofalu am rieni neu frodyr/chwiorydd sâl neu anabl yn elwa o gerdyn adnabod newydd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd gofalwyr ifanc Casnewydd, gyda chefnogaeth Barnardo’s Cymru, ymhlith y cyntaf i gael defnyddio’r cardiau hyn i dynnu sylw athrawon, gweithwyr meddygol proffesiynol a manwerthwyr at eu rôl gofalu. Mae cynlluniau tebyg ar y gweill gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Dywed Barnardo’s nad yw’r gwaith a wneir gan Ofalwyr Ifanc o gefnogi perthnasau yn cael digon o sylw, er gwaethaf yr effaith bosib ar eu haddysg, eu hiechyd meddwl a’u bywyd cymdeithasol. Er mwyn rhoi seibiant iddynt o’u cyfrifoldebau, mae’r elusen yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a chwaraeon, sydd hefyd yn eu cynorthwyo i ymdopi â’r gofynion ychwanegol arnynt.
Dywedodd Jon Hilder, Rheolwr Tîm Barnado’s ar gyfer Gofalwyr Ifanc Casnewydd:
“Mae’r cerdyn newydd yn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol iddynt, a bydd yn helpu pobl fydd yn dod i gyswllt â nhw i ddeall yr heriau y gallent fod yn eu hwynebu gartref.
“Efallai fod adegau pan na allant gyrraedd yr ysgol neu gwblhau gwaith cartref ar amser, neu efallai eu bod yn poeni neu’n bryderus. Gall dangos y cerdyn i athro fod yn fan cychwyn i sgwrs a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfrifoldebau sydd ganddynt gartref.
“Mae llawer o ofalwyr ifanc yn falch o’r hyn maent yn ei wneud, ond mae rhai hefyd yn teimlo cywilydd wrth siarad amdano, a gall dangos y cerdyn yn ddistaw bach fod o gymorth iddynt. Mae hefyd yn ffordd o esbonio i weithwyr iechyd proffesiynol pam y gallent fod yn mynd gyda pherthynas i apwyntiad meddygol, neu yn codi presgripsiynau iddynt.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Wasanaethau Cymdeithasol:
“Mae’n hynod bwysig bod pobl ifanc sy’n cefnogi eu hanwyliaid yn cael cynnig cefnogaeth a chyfleoedd i gael amser i ffwrdd o unrhyw gyfrifoldeb, cwrdd â’u cyfoedion a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae hyn wedi bod yn bwysicach fyth, ac rwy’n falch o ddweud bod Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Casnewydd wedi medru parhau’r cyswllt pwysig hwnnw trwy weithio’n ‘rhithiol’ gyda phobl ifanc.
“Un o’r prosiectau gwych a ddatblygwyd gyda chymorth y gofalwyr ifanc e hunain yw’r Cerdyn Adnabod, ac rwy’n falch iawn mai Casnewydd fydd un o’r ardaloedd cyntaf i’w fabwysiadu.”
Gyda chymorth Barnado’s, cynlluniodd y gofalwyr ifanc y gwaith celf yn ogystal â helpu i drefnu’r lansiad ar-lein swyddogol gydag uwch wleidyddion o Gyngor Dinas Casnewydd a chwaraewyr o dîm pêl-droed Casnewydd AFC. Byddant yn cyd-gyflwyno’r lansiad yn ogystal ag ymddangos mewn fideo a wnaed yn arbennig.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o £200,000 ar gyfer cyflwyno’r cynlluniau Cardiau Adnabod ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, gan weithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Cydnabu’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, effaith y pandemig ar ofalwyr ifanc yn ystod lansiad y cardiau cyntaf yng Ngheredigion,
Meddai:
“O geisio cael cydbwysedd rhwng y gwaith gofalu mewn cyfnod clo cenedlaethol tra hefyd yn gwneud gwaith ysgol yn y cartref a chyflawni tasgau hanfodol fel siopa – rwy’n ymwybodol iawn o ba mor anodd y mae’r sefyllfa wedi bod iddynt. Dyma pan rwy’n argyhoeddedig o bwysigrwydd Cardiau Adnabod i ofalwyr ifanc; rydym am i’n gofalwyr ifanc gael eu cydnabod, eu helpu a’u cefnogi i gael mynediad i wasanaethau ble bynnag a phryd bynnag maent eu hangen.”
Mae Sian Harris, sy’n 16 oed ac yn dod o Gasnewydd, yn helpu i edrych ar ôl ei brawd sy’n dioddef o amryw o gyflyrau iechyd sy’n cynnwys parlys yr ymennydd.
“Bydd cael cerdyn adnabod gofalwr ifanc yn fy helpu yn yr ysgol,” dywedodd. “Weithiau rydw i angen gwneud galwad ffôn neu adael yn gynnar oherwydd fy rôl fel gofalwr. Rwy’n ei chael yn anodd gorffen tasgau gwaith cartref ar adegau, gan fy mod yn rhy brysur, neu yn teimlo’n bryderus. Bydd cael cerdyn adnabod yn helpu’r athrawon i ddeall a chydnabod fy rôl fel gofalwr er mwyn rhoi mwy o gefnogaeth i mi yn yr ysgol.”
Mae Ellie-May Glover, 15 oed, o Gasnewydd yn gofalu am ei mam sy’n dioddef o COPD, asthma a diabetes a’i mam-gu sydd â chyflwr osteoarthritis a diabetes.
Dywedodd Ellie:
“Bydd y Cardiau Adnabod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i mi ac i ofalwyr ifanc eraill. Bydd yn helpu athrawon i ddeall fy mod i’n ofalwr ifanc, ac os byddaf yn teimlo’n bryderus neu yn poeni, gallaf ddangos fy ngherdyn iddynt. Gall cael y Cerdyn Adnabod hefyd fod o help mewn siopau neu fferyllfeydd. Bydd yn helpu pobl i ddeall beth rydyn ni yn ei wneud.”
Y gobaith yw y bydd siopau lleol a chanolfannau hamdden yn cynnig gostyngiad i’r cannoedd o ofalwyr y disgwylir iddynt elwa ar draws Casnewydd.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m