04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

MAE pobl ifanc yn Oakdale, sef cymuned ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, yn gwella eu sgiliau sglefrfyrddio o ganlyniad i adeiladu parc sglefrio lleol newydd yn ddiweddar yn lle eu hen un.

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fuddsoddi £50,000, trwy ei raglen i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), i adeiladu parc sglefrio newydd ar ffurf arllwysiad concrit – wedi’i ddatblygu gan y contractwr parc sglefrio profiadol o’r Deyrnas Unedig, Bendcrere – yn lle’r un blaenorol. Bydd y rhaglen i fodloni SATC yn golygu buddsoddi tua £260 miliwn yng nghartrefi tenantiaid y Cyngor a chymunedau lleol ledled y Fwrdeistref Sirol.

O ganlyniad i gyllid ychwanegol trwy Chwarae Cymru, mae tîm Dyfodol Cadarnhaol y Cyngor, sy’n rhan o Chwaraeon Caerffili, hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’r sglefrfyrddiwr lled-broffesiynol a Chyfarwyddwr Skateboard Academy UK, Sam Horler, sy’n cynnig sesiynau i bobl ifanc 5–17 oed i ddysgu sut i ddefnyddio’r parciau’n ddiogel a datblygu sgiliau sglefryfyrddio.

Trefnodd y tîm Dyfodol Cadarnhaol sesiwn grŵp bach, yn unol â rheoliadau COVID-19, i ddathlu cwblhau parc sglefrio newydd Oakdale yn ddiweddar, a bydd y tîm yn cyflwyno’r sesiynau hyn i barciau sglefrio ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai ac Eiddo

“Mae tîm SATC y Cyngor wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ddeall eu blaenoriaethau lleol mewn perthynas â gwelliannau amgylcheddol a gyflwynir fel rhan o’r rhaglen SATC. Yn achos Oakdale, gwnaethom hefyd ofyn i’r gymuned roi eu barn i ni ar y dyluniad a ffefrir ganddynt ar gyfer y parc sglefrio newydd.

Mae’n wych gweld gwahanol dimau fel SATC a Dyfodol Cadarnhaol yn dod at ei gilydd mewn prosiectau fel hyn, ac yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol profiadol fel Bendcrete a Sam, i wneud byd o wahaniaeth i’n pobl ifanc. Rwy’n siŵr y bydd y cyfleuster newydd hwn yn cael ei fwynhau am genedlaethau i ddod.”

%d bloggers like this: