03/27/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Golau gwyrdd ar gyfer buddsoddiad ysgolion gwerth £40 miliwn

MAE Cabinet Cyngor Caerffili wedi cymeradwyo pecyn buddsoddi cyffrous gwerth cyfanswm o dros £40 miliwn, i helpu i drawsnewid ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Fe wnaeth y Cabinet gyfarfod ddydd Mercher ( Ebrill 7) ystyried nifer o adroddiadau allweddol sy’n nodi cynigion uchelgeisiol ar gyfer cam nesaf y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sydd werth miliynau o bunnoedd.

Y cyntaf i gael cymeradwyaeth oedd cynlluniau mawr i drawsnewid dyfodol dau safle ysgol allweddol yn llwyr o dan gynigion Band B y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif:

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod – gwaith sydd werth £12.5 miliwn i ehangu’r ysgol a chanolfan adnoddau bresennol, gan gynnwys estyniad newydd a lle chwarae awyr agored. Byddai’r buddsoddiad yn darparu rhagor o leoedd yn yr ysgol flaenllaw hon i ddisgyblion ag anghenion sylweddol. Cytunodd y Cabinet hefyd i wario £300 mil ar gyfleusterau chwaraeon newydd yn Ystrad Mynach i liniaru rhag colli cae chwaraeon ger safle Cae’r Drindod. Bydd y cynlluniau’n arwain at enillion net yn narpariaeth chwaraeon y dref ac mae’n cynnwys buddsoddiad sylweddol ar safle Sue Noake gerllaw.

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon – gwaith sydd werth £9.6 miliwn i symud yr ysgol bresennol i gyfleuster darpariaeth Gymraeg, pwrpasol, newydd ar safle gwag hen Ysgol Uwchradd Cwmcarn.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden,

“Rydyn ni’n falch iawn o roi’r golau gwyrdd i’r cynigion hyn sef cam diweddaraf ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif hynod lwyddiannus. Rydyn ni eisoes wedi cyflwyno cynlluniau ysgol gwych gwerth cyfanswm o £56.5 miliwn trwy’r rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn.”

“Byddwn ni nawr yn canolbwyntio ar y camau nesaf yn y broses gyflawni ac edrychaf ymlaen at y buddion niferus a ddaw yn sgil y cynlluniau hyn i’n disgyblion yn y dyfodol.”

Cytunodd y Cabinet hefyd i symud ymlaen i gam nesaf rhaglen Band B. Mae tri phrosiect wedi’u nodi fel rhan o Gam 2, sef:

Canolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed gwerth £5.5 miliwn – Cynnig i addasu ac adnewyddu hen adeilad ysgol ramadeg (hen Ysgol Uwchradd Pontllan-fraith) ar gyfer darparu canolfan newydd, addas i’r pwrpas, i ddysgwyr agored i niwed ledled yr ardal.

Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon gwerth £4 miliwn – Cynnig i gyfuno’r ddwy ysgol trwy ehangu ac adnewyddu safle presennol Ysgol Fabanod Llanfabon. Fe allai’r Ysgol Gynradd newydd gynnig 275 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa.

Ysgol Gynradd Plasyfelin gwerth £9 miliwn – Cynnig i adeiladu ysgol newydd a mwy ar dir safle presennol yr ysgol, ar gyfer ateb y galw rhagamcanol yn yr ardal yn y dyfodol. Fe allai’r ysgol newydd ddarparu 420 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa.

Meddai’r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg,

“Mae gennym ni uchelgeisiau beiddgar i roi’r cyfleoedd bywyd gorau i bob dysgwr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn trwy ddarparu addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws ein hysgolion.”

Mae’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol, sy’n cael ei hariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae’r Rhaglen hefyd yn cyfrannu at Fframwaith Llesiant a Llunio Lleoedd y Cyngor o ran buddsoddi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

%d bloggers like this: