04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gorsaf newydd fodern ar gyfer criwiau ambiwlans Bae Aberteifi

MAE criwiau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym Mae Aberteifi yn paratoi i symud i gartref newydd parhaol o’r radd flaenaf.

Bydd criwiau wedi’u lleoli mewn caban Portakabin yng Ngorsaf Dân Cei Newydd yn flaenorol yn symud i’r cyfleuster newydd yn Aberaeron ym mis Tachwedd.

Mae proses adnewyddu llwyr adeilad 1,700 troedfedd sgwâr ar dir safle Minaeron Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dechrau yn awr.

Bydd y cyfleuster yn cynnwys garej ac ardal i ddau ambiwlans yn ogystal â chegin, ystafell orffwyso a chawodydd.

Dywedodd Catrin Convery, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Ngheredigion: “Tan yn ddiweddar roedd ein criwiau Cei Newydd wedi’u lleoli mewn caban ond gwnaeth difrod sylweddol gan stormydd olygu nad oedd ein presenoldeb yno’n ddichonadwy.

“Ers hynny mae cydweithwyr wedi bod yn gweithio o wahanol leoliadau ar draws y sir, ac felly maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr i ddod at ei gilydd unwaith eto a chael eu lleoliad eu hunain.

“Bydd safle Aberaeron yn darparu cyfleusterau modern, addas i’w pwrpas y mae ein staff yn eu haeddu, a fydd yn eu tro yn golygu gwell gwasanaethau ar gyfer pobl Ceredigion.”

Mae hyn yn rhan o raglen waith ehangach i foderneiddio ystad yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi gweld gwelliannau diweddar yn Nhredegar, Llanelwy, Abertawe, Hendy-gwyn ar Daf, Llanidloes a’r Bari.

Mae rhagor o gyfleusterau yn Ne Cymru yn yr arfaeth hefyd, yn cynnwys y brifddinas lle mae Canolfan Ambiwlans Ardal Caerdydd wrthi’n cael ei hadeiladu.

Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys depo ‘gwneud yn barod’ ar gyfer glanhau ac adnewyddu stoc ambiwlansau, yn ogystal â chanolfan addysg a chanolbwynt ar gyfer Uned Ymateb ar Feiciau’r Ymddiriedolaeth.

Dywedodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfalaf ac Ystadau’r Ymddiriedolaeth: “Un o’n prif flaenoriaethau fel sefydliad yw sicrhau fod ein pobl ni’n medru gweithio mewn amgylcheddau diogel, modern wedi’u cynnal yn dda, sy’n caniatáu iddyn nhw wasanaethu cymunedau hyd eithaf eu gallu.

“Bydd symud i safle Minaeron hefyd yn cyflwyno’r cyfle perffaith i weithio’n agosach gyda’n cydweithwyr Bwrdd Iechyd, y mae gennym ni berthynas waith ragorol gyda nhw eisoes, ac rydym ni’n ddiolchgar am eu cefnogaeth yn bwrw ymlaen gyda’r prosiect cyffrous hwn.”

Dywedodd Peter Skitt, Cyfarwyddwr Ceredigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r datblygiad hwn yn gyfle rhagorol am ddull gweithredu mwy integredig a chynaliadwy i bobl Ceredigion.

“Mae’n caniatáu i’n timau ni weithio’n agosach gyda’i gilydd a defnyddio dull di-dor o ran darparu ein gwasanaethau.

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at gwblhau’r gwaith adnewyddu a gweithio’n agosach gyda’n cydweithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.”

Cwmni Edmunds Webster Ltd o Abertawe sy’n gwneud y gwaith adnewyddu, sydd wedi golygu dymchwel waliau allanol a mewnol i wneud lle i’r cyfleuster newydd.

%d bloggers like this: