04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Grantiau gwelliannau awyr agored helpu busnesau baratoi i ailagor

GYDA lleoliadau lletygarwch yn cael ailagor ddiwedd y mis, mae busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn defnyddio cyllid i’w helpu i baratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel.

Mae’r Gronfa Adfer Wedi Covid-19 Gwelliannau Awyr Agored, sy’n cynnwys arian gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Tasglu’r Cymoedd a menter Buddsoddiad Adfywiad Targedig Llywodraeth Cymru, wedi targedu ardaloedd allanol lle mae cwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd yn ymgynnull, yn ymlacio neu’n mwynhau bwyd a diod.

Mae perchnogion busnes ac eiddo masnachol wedi gallu ymgeisio am grantiau hyd at £10,000 ar gyfer addasiadau yn amrywio o ganopïau a dodrefn awyr agored i blanwyr, gwresogi awyr agored, sgriniau a mwy. Mae o leiaf 20 y cant o gyfanswm costau’r prosiect yn cael ei dalu gan yr ymgeisydd.

Mae dwsinau o fusnesau a sefydliadau ledled y fwrdeistref sirol wedi elwa o’r cynllun gyda cheisiadau gan Bang-On Brewery, gwesty’r Seabank, Porthcawl, Beach Academy, Clwb Golff Brenhinol Porthcawl a Chanolfan Gymunedol Corneli yn cael eu cymeradwyo’n ddiweddar.

Un o’r lleoliadau i dderbyn grant yw’r Cross Inn ym Maesteg, sydd hefyd yn berchen ar ei fragdy ei hun, Cerddin Brewery, ar y safle.

Dywedodd David Morgan, sy’n rhedeg y busnes gyda’i wraig, Gill:

“Mae’r cyllid wedi ein helpu i adeiladu ardal awyr agored sy’n gwneud y mwyaf o’r ardal y tu allan i’r dafarn.

“Rydym wedi gosod strwythur derw gyda tho poli-carbon ac wedi ychwanegu gwres a golau fel bod cwsmeriaid yn medru eistedd y tu allan yn gyfforddus.

“Bydd hyn yn ein galluogi i ailagor y tu allan ar ddiwedd y mis os bydd cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio, a byddwn yn ei ddefnyddio’n bell i’r dyfodol, drwy gydol y flwyddyn.

“Rydym yn ddiolchgar iawn o’r grant a’r cymorth rydym wedi ei dderbyn gan y cyngor wrth ein helpu drwy’r broses ymgeisio.”

Gwnaeth Abbé Vaughan, perchennog The Potting Shed ym Mhorthcawl, gais am grant i helpu i ehangu’r ardal awyr agored sydd ar gael ym mar y caffi.

Dywedodd:

“Gan fod y diwydiant lletygarwch ond yn debygol o agor yn yr awyr agored i ddechrau, gwnes gais am grant gwelliannau awyr agored cyn gynted â phosibl.

“Roedd gan far fy nghaffi ardal awyr agored fechan, ond er mwyn caniatáu ymbellhau cymdeithasol, roedd ond digon o le i ychydig o bobl. Mae’r cyllid hwn wedi fy ngalluogi i ffensio ardal fwy, nad oedd yn cael ei defnyddio, i wneud gardd gwrw fwy. Mae hyn wedi dyblu maint yr ardal awyr agored, ac rwyf wedi medru prynu dodrefn a gwresogi, ac wedi ymgymryd ag ychydig o waith tirlunio.

“Mae’r holl welliannau’n golygu fy mod yn medru masnachu’n ddigonol yn yr awyr agored gyda’r offer a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnaf i’w wneud yn brofiad proffidiol, pleserus a mwy diogel i bawb. Heb y grant hwn, mae’n debyg ni fyddwn yn masnachu tan o leiaf ddiwedd mis Mai, felly ar gyfer busnes bach lleol fel fy un i, mae wedi bod yn amhrisiadwy. Rwyf wir yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid yn ôl.”

%d bloggers like this: