04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith dymchwel adeiladau ar Stryd Fawr Bangor wedi cychwyn

MAE gwaith i ddymchwel adeiladau ar 164 a 166 Stryd Fawr Bangor, a ddifrodwyd gan dân yn Rhagfyr 2019, wedi cychwyn.

Bwriedir cwblhau’r gwaith mewn dwy ran. Fe fydd y rhan cyntaf yn ymwneud a chryfhau’r ffordd ar gyfer lleoli craen i alluogi’r gwaith dymchwel fwrw ymlaen. Rhagwelir y bydd y gwaith cam cyntaf yn cymryd oddeutu 7 wythnos.

Unwaith y bydd craen wedi ei leoli ar y safle yna fe fydd yr ail gam, sef dymchwel yr adeiladau, yn gallu dechrau. Rhagwelir i’r gwaith dymchwel gymryd oddeutu 6 wythnos i’w gwblhau.

Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Rydym yn cydnabod yn llwyr yr effaith a’r aflonyddwch y mae’r sefyllfa yma wedi’i achosi i drigolion a masnachwyr lleol. Rwy’n hynod falch felly ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle gall gwaith nawr ddechrau ar y safle, gyda’r golwg i ail-agor y rhan yma o’r Stryd Fawr i draffig cyn gynted â phosib.

“Byddwn yn gofyn am ddiweddariadau a mwy o sicrwydd ar yr amserlen wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.”

Meddai John Evans o Beirianwyr EWP sy’n gweithio ar ran perchnogion yr adeiladau: “Rydym nawr mewn sefyllfa i ddechrau paratoadau pellach i ddymchwel y ddau eiddo gyda gwaith yn cychwyn ar y safle wythnos nesaf. Hoffem ddiolch i yswirwyr, trigolion a busnesau lleol, darparwyr gwasanaethau, Cyngor Dinas Bangor a Chyngor Gwynedd am eu cydweithrediad a’u cymorth i alluogi’r gwaith hwn i ddechrau.

“Mae cyflwr a lleoliad yr eiddo sydd wedi’u difrodi gan dân, cyflwr gwael y ddaear a gwasanaethau tagedig wedi golygu ymchwilio sylweddol a mesurau lliniaru risg wedi’u rhoi mewn lle. Byddwn mewn cysylltiad cyson gyda Chyngor Gwynedd drwy gydol y cyfnod i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith.”

%d bloggers like this: