04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwaith dymchwel rhan o gynllun adfywio Sgwâr Rhos yn Aberpennar

CYN bo hir, bydd preswylwyr a busnesau yng nghanol tref Aberpennar yn derbyn llythyr yn amlinellu’r gwaith sydd ar y gweill er mwyn dymchwel dau adeilad yn Stryd Rhydychen – mae hyn yn golygu y bydd modd gwella Sgwâr Rhos yn sylweddol yn y dyfodol.

Bydd yr ardal a gaiff ei hadnabod yn lleol fel Sgwâr Guto yn cael ei datblygu o dan Fframwaith Adfywio Canol Tref Aberpennar – sy’n ymgorffori sawl prosiect ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys Canolfan Gofal Sylfaenol newydd, Cyfleuster Gofal Ychwanegol a gwaith ailddatblygu rhif 1 i 4, Adeiladau Rhydychen. Cafodd y Ganolfan Gymuned, Canolfan Pennar, a agorodd ei drysau ym mis Mehefin 2019, hefyd ei chyflawni yn rhan o’r Fframwaith yma.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu Sgwâr Rhos ym mis Ebrill 2019. Bydd y gwaith yn cynyddu nifer y lleoedd parcio arhosiad byr ym Maes Parcio Gogledd Stryd Henry, yn gwella edrychiad yr ardal ac yn golygu bod modd gwneud defnydd mwy hyblyg o’r ardal ar gyfer achlysuron a gweithgareddau yn y dyfodol.

Er mwyn hwyluso gwaith ailddatblygu’r sgwâr, rhaid dymchwel dau adeilad (37 a 39 Stryd Rhydychen) – ynghyd â’r tir diffaith wrth ymyl y toiledau cyhoeddus. Bydd y gwaith dymchwel yn para am bedair wythnos. Y nod hyn yw paratoi’r safle ar gyfer y gwaith adeiladu dilynol yn y dyfodol.

Mae’r Cyngor wedi penodi Bond Demolition Ltd fel y contractwr sy’n gyfrifol am gyflawni cam cychwynnol y gwaith. Yn ystod yr wythnos, bydd gwaith yn cael ei gyflawni ar y safle rhwng 8am a 5pm. Mae’n bosibl y bydd angen cyflawni rhywfaint o waith ar y penwythnos. Bydd gwybodaeth am y gwaith yn cael ei rhannu â busnesau lleol a phreswylwyr ar ffurf llythyr nes ymlaen yr wythnos yma. Bydd yr wybodaeth yma’n cynnwys sut i gysylltu â’r contractwr cyn i’r gwaith gychwyn ac yn ystod y gwaith.

Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn achosi llawer o anghyfleustra, er y bydd peiriannau’n cael eu defnyddio a bydd lorïau’n cyrraedd/gadael y safle o bryd i’w gilydd. Bydd y farchnad sy’n cael ei chynnal bob dydd Gwener yn cael ei hadleoli i faes parcio De Stryd Henry yn ystod y cyfnod yma. Bydd y gwaith yn cydymffurfio â’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol diweddaraf.

Meddai’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai:

“Mae gwaith datblygu Sgwâr Guto yn brosiect cyffrous sy’n rhan o’r cynllun Adfywio ehangach ar gyfer canol tref Aberpennar. Roedd Fframwaith y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ionawr 2019. Nod y Fframwaith yw dod â chyfres o gynlluniau buddsoddi ar gyfer y dref ynghyd. Mae cynllun Canolfan Pennar wedi cael ei gwblhau’n llwyddiannus, dyma enghraifft arbennig o sut i ddod â gwasanaethau at ei gilydd er budd y preswylwyr.

“Bydd y gwaith a fydd yn cael ei gyflawni yn Sgwâr Guto yn gwella safle sydd eisoes yn ganolbwynt i’r dref – trwy adnewyddu cyfleusterau cyhoeddus, adfywio tir diffaith  a chynnig man hyfryd ble bydd modd cynnal achlysuron yn y dyfodol yn ogystal â’r farchnad wythnosol. Bydd cerflun Guto Nyth Bran yn aros yn yr ardal yma. Bydd y gwaith yma hefyd yn cynyddu’r ddarpariaeth parcio sy’n gwasanaethu’r dref, mae’r cyfleuster yma’n parhau i gael ei gynnig yn rhad ac am ddim er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’r dref ac yn siopa ynddi.

“Bydd y Cyngor yn rhannu manylion y gwaith dymchwel arfaethedig gyda phreswylwyr ar ffurf llythyr yr wythnos yma, cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle yn y Flwyddyn Newydd. Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i ymwelwyr canol y dref am eu cydweithrediad, wrth i’r Cyngor gyflawni’r gwaith paratoi pwysig yma sy’n gysylltiedig â gwaith gwella Sgwâr Guto.”

%d bloggers like this: