MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn dathlu gwaith ei wirfoddolwyr fel rhan o’r digwyddiad cenedlaethol Wythnos Gwirfoddolwyr.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr (01-07 Mehefin) yn ddathliad blynyddol cyfraniad miliynau o bobl ledled y Deyrnas Unedig trwy wirfoddoli.
Mae mwy na 1,400 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, yn cynnwys 1,200 o Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf a 170 Gyrrwr Car Gwirfoddol.
Mae Gyrwyr Ceir Gwirfoddol yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo pobl i apwyntiadau ysbyty, yn cynnwys apwyntiadau dialysis arennol, oncoleg ac allgleifion.
Yn ystod 2019/20 gwnaed 134,354 taith ganddynt ledled Cymru gan gwmpasu mwy na phedwar miliwn o filltiroedd – sy’n cyfateb i yrru i’r lleuad ac yn ôl wyth gwaith.
Aelodau’r cyhoedd wedi’u hyfforddi i ddarparu cymorth cyntaf sy’n arbed bywyd i bobl yn eu cymuned eu hunain cyn i’r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd ydi’r Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf. Fel rhan allweddol yn y gadwyn oroesi mae Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf yn chwarae rhan weithgar yn achub llawer o fywydau ledled Cymru bob blwyddyn.
Maen nhw’n meddu ar yr offer a’r wybodaeth i roi triniaeth yn ystod munudau cyntaf hollbwysig argyfwng meddygol, yn cynnwys adfer cardio-pwlmonaidd a diffibrileiddio yn achos ataliad ar y galon.
Aeth Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf i 29,000 o argyfyngau y llynedd, gan gyrraedd lleoliad y galwadau ‘Coch’ mwyaf difrifol mewn chwe munud a 49 eiliad ar gyfartaledd.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae ein gwirfoddolwyr yn y gwasanaeth Ceir Gwirfoddol neu’n Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf yn rhoi o’u hamser i gynorthwyo ein cymunedau. Mae’r amser maen nhw’n ei roi yn sylweddol ac mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cleifion ni ar draws Cymru.
“Heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr a’u teulu a’u ffrindiau sy’n eu cefnogi i wirfoddoli gyda ni, ni fyddem yn medru gweithredu’r gwasanaeth rydym ni’n ei gynnig.
“Mae’r ymroddiad a ddangoswyd gan ein gwirfoddolwyr trwy’r pandemig Covid-19 wedi bod yn anhygoel, a hoffem ddweud diolch enfawr wrthyn nhw am eu hamser a’u hymroddiad, nid yn unig yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, ond gydol y flwyddyn.”
Dywedodd Martin Woodford, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: “Rydym ni fel gwasanaeth ambiwlans yn dibynnu’n fawr ar gyfraniad ein gwirfoddolwyr, boed law neu hindda, a hynny’n fwy nag erioed yn ystod y pandemig brawychus hwn.
“Ar ran ein Bwrdd, hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad enfawr i’n holl wirfoddolwyr diflino, p’un ai’n Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf, Gyrwyr Ceir Gwirfoddol, neu bobl sydd wedi camu ymlaen i’n helpu ni mewn unrhyw ffordd y medran nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
“Mae ein dyled i chi’n barhaus,” ychwanegodd Martin.
Yn ogystal â’r Ymatebwyr Cymunedol Cyntaf a’r Gyrwyr Ceir Gwirfoddol mae’r Ymddiriedolath yn dibynnu ar gefnogaeth Urdd Sant Ioan Cymru ac ymatebwyr cyntaf o’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru.
Fe’i cefnogir hefyd gan feddygon ‘BASICS’ y Gymdeithas Brydeinig Gofal Ar Unwaith (British Association of Immediate Care), sy’n darparu gofal cyn mynd i’r ysbyty yn lleoliad argyfyngau mwy cymhleth.
Os hoffech chi wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, edrychwch ar www.ambulance.wales.nhs.uka mynd i’r dudalen ‘Cymryd Rhan.’
Edrychwch ar http://volunteersweek.org am ragor o wybodaeth.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m