04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth cludo bwyd yn rhoi hwb i’r economi leol yn ystod argyfwng Covid-19

Mae busnesau ac entrepreneuriaid lleol wedi bod yn addasu ac yn arloesi er mwyn ymateb i’r argyfwng presennol, ac mae nifer o fentrau yn y diwydiant bwyd a diod, fel y gwasanaeth “Ymaichi” sydd wedi’i sefydlu yn Aberystwyth, wedi cael eu croesawu gan Blaid Cymru.

Mae Gweinidog Materion Gwledig yr Wrthblaid, Llŷr Gruffydd MS Plaid Cymru, ynghyd â llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig yn San Steffan Ben Lake AS, yn arwain ymgyrch newydd fydd yn helpu rhoi hwb i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.

Mae’r ymgyrch ‘Dwi’n prynu’n lleol’ yn annog cymunedau i brynu bwyd a diod a gynhyrchir yn fwy lleol gyda’r nod o helpu’r busnesau hynny i ymdopi â heriau pandemig Covid-19 yn ogystal â meithrin gwytnwch ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Ben Lake AS llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig yn San Steffan:

“Fel llawer o sectorau eraill, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar y diwydiant bwyd a diod. Wrth i fwytai a chaffis gau yn sydyn, a’r diffyg mynediad at farchnadoedd allforio, collodd llawer o ffermwyr Cymru eu marchnadoedd dros nos. Er gwaethaf yr heriau sylweddol hyn, mae wedi bod yn destun balchder gweld busnesau lleol yn mynd ati i gefnogi ei gilydd mewn ffyrdd arloesol, ac mae’n galonogol bod cymaint o bobl yn ein cymunedau wedi penderfynu troi at gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol.

“Un enghraifft wych o sut mae rhwydwaith dosbarthu lleol wedi’i ddatblygu yng ngogledd Ceredigion yw Ymaichi, gwasanaeth a sefydlwyd mewn ymateb i’r argyfwng sy’n helpu cynhyrchwyr bwyd lleol yn y sir i ddosbarthu eu cynnyrch.”

Gwasanaeth dosbarthu dielw yw Ymaichi sy’n dod o hyd i gynnyrch bwyd a diod gan gynhyrchwyr lleol y gellir eu harchebu ar-lein trwy eu gwefan. Sefydlwyd y gwasanaeth gan Aled Rees a Jo Williams mewn ymateb i argyfwng Covid-19. Mae Aled yn berchen ar lawer o fusnesau yn Aberystwyth, gan gynnwys Siop y Pethe, Cambria Tours, Teithiau Tango ac mae’n gydberchennog ar y bwyty Byrgyr yn y dref.

Dywedodd Aled Rees sy’n rhedeg Ymaichi:

“Cyn gynted ag y cyflwynwyd y cyfyngiadau symud, roedd yn anochel y byddai cyflenwadau bwyd yn cael eu tarfu’n slweddol, ac y gallai hyn gael effaith drychinebus ar y sector bwyd a diod lleol.

“Roeddwn eisiau ei gwneud hi’n hawdd i gymunedau yng ngogledd Ceredigion ddod o hyd i gynnyrch bwyd a diod lleol o safon heb orfod gadael eu cartrefi. Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil cychwynnol, sylweddolais fod pobl eisiau cefnogi’r economi leol a chynhyrchwyr lleol, a dyna pam y penderfynais sefydlu Ymaichi.

“Trwy wefan Ymaichi gallwch archebu bocsys cig a gynhyrchir yn lleol, bocsys ffrwythau a llysiau, cynnyrch bara a chacennau a phrydau cartref a gaiff eu cludo at eich drws. Mae’r gwasanaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn. Rwy’ wedi dosbarthu mor bell i’r gogledd â Machynlleth a chyn belled i’r de â Chei Newydd ac mae pobl yn hynod ddiolchgar o allu cefnogi’r economi leol.

“Gobeithio y bydd y newid mewn arferion siopa yn sgil y pandemig hefyd yn golygu newid yn y ffordd rydyn ni’n edrych ar ein cynnyrch lleol a’n heconomi leol yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Ben Lake AS:

“Mae model Ymaichi yn ffordd arloesol o hyrwyddo cynnyrch lleol gan ddefnyddio technoleg fodern y farchnad ar-lein. Mae pobl eisiau prynu cynnyrch lleol, cynaliadwy – yr her yw sicrhau bod y cynnyrch hyn ar gael iddynt yn hawdd. Trwy gefnogi mentrau fel hyn a phrynu cynnyrch lleol, rydym yn helpu i leihau’r milltiroedd bwyd, sy’n cael effaith ar yr amgylchedd, ac ar yr un pryd yn cryfhau’r economi leol.”

 Ychwanegodd Aled Rees ymhellach:

“Mae hwn yn fodel y gellid ei gyflwyno yn hawdd mewn cymunedau eraill ledled Cymru a byddwn yn fwy na pharod i rannu fy ngwybodaeth a chynnig cyngor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn sefydlu gwasanaeth tebyg yn eu cymuned leol.”

%d bloggers like this: