04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwasanaeth Negeseuon Cymunedol yn cyrraedd 10k o aelodau

MAE mwy ‘na 10,000 o bobl wedi tanysgrifio i system negeseuo cymunedol sydd am ddim a lansiwyd flwyddyn yn ôl.

Mae’r system Rhybuddion Cymunedol Gogledd Cymru, a sefydlwyd fel y system gyntaf yng Nghymru diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, yn golygu y gall pobl dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyngor atal trosedd sy’n berthnasol i’w hardal leol.

Mae’n sydyn ac yn syml i gofrestru ac mae’n wasanaeth negeseuo sy’n rhad ac am ddim i bobl sy’n byw a gweithio yng Ngogledd Cymru er mwyn eu diweddaru am newyddion, rhybuddion, apeliadau, digwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau plismona cyffredinol o’u timau plismona lleol.

Dywedodd yr Arolygydd Wes Williams o Heddlu Gogledd Cymru:

“Er mwyn nodi’r garreg filltir hon, hoffem ddweud diolch yn fawr i bawb sydd wedi tanysgrifio am eu cefnogaeth barhaol, oherwydd hebddynt, ni fuasem yn gallu darparu gwasanaeth effeithiol i’n cymunedau.

“Mae cadw pawb yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Rydym eisiau parhau i weithio’n ddiflino gyda’n partneriaid er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n bwysig sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein cymunedau.

“Mae pob un aelod newydd yn rhoi llais, llygaid a chlustiau ychwanegol o fewn ein cymunedau, er mwyn i ni ymgysylltu a rhannu rhybuddion lleol er mwyn diweddaru pawb hefo’r hyn sy’n digwydd.

“Mae diweddaru cymunedau am batrymau, pryderon a straeon newyddion da yn cynorthwyo tuag at atal pethau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Yr hyn sy’n gwneud y system mor ddefnyddiol yw bod unigolion yn gallu dewis pa wybodaeth yr hoffent ei dderbyn gennym ni a sut y byddent yn hoffi ei dderbyn. Boed hynny ar e-bost, neges destun neu neges llais – nid oes angen iddynt gael cysylltiad â’r rhyngrwyd – eu dewis nhw ydyw.

“Nid sianel ddarlledu ydy Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn unig, lle mai ond ni sy’n dweud wrthych chi. Mae’n system negeseuon dwyffordd fel bod gennym ffordd ychwanegol o wrando ar yr hyn sydd gan ein cymunedau i’w ddweud.”

%d bloggers like this: