04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwersi Cymraeg am ddim i bobl 18 i 25 mlwydd oed a staff addysgu

MAE pobl ifanc a staff y sector addysg yng Nghymru bellach gael mynediad at wersi Cymraeg am ddim fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’r ymrwymiad yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Gall pobl rhwng 18 a 25 mlwydd oed gofrestru ar gyrsiau Cymraeg gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac ni fydd angen iddynt dalu wrth gofrestru.

Mae gwersi Cymraeg am ddim hefyd ar gael i bob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gryfhau’r elfen o ddysgu Cymraeg yn y Cwricwlwm newydd a chynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng yr iaith.

Bellach gall staff y sector addysg gael mynediad at borth ar-lein newydd lle gallant ddod o hyd i gwrs addas gan gynnwys gwersi rhithiol, gwersi wyneb yn wyneb a chyrsiau hunanastudio. Mae’r porth yn cynnwys Dewin Dysgu sy’n helpu i roi dewis o gyrsiau perthnasol.

Mae pobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach penodol yn cymryd rhan mewn prosiect peilot dysgu digidol, sy’n cael ei redeg gan y Ganolfan Genedlaethol a SaySomethinginWelsh. Mae mentrau eraill ar gyfer pobl 16 i 18 mlwydd oed yn cynnwys cwrs byr ar-lein gyda Gwobr Dug Caeredin a chynllun peilot magu hyder mewn Cymraeg ym Mhowys gydag e-sgol.

Bydd tystiolaeth a data a gesglir fel rhan o’r prosiectau peilot yn llywio cynllun cenedlaethol ar gyfer pobl 16 i 18 mlwydd oed, o 2023 ymlaen.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

“Rwy’n falch ein bod yn cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu ein hiaith a’i gwneud yn haws i fwy o bobl gael cyfle i ddysgu Cymraeg a defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Mae cynyddu nifer yr addysgwyr sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol o ran cyflawni ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hyn yn ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt gael mynediad at gyrsiau Cymraeg am ddim. Mae darparu gwersi am ddim i bobl 18 i 25 mlwydd oed yn golygu y gallant barhau i ddatblygu a gwella eu gallu yn y Gymraeg a’i defnyddio yn eu gwaith ac wrth gymdeithasu.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Byddwn yn annog pob aelod o staff addysgu a phobl ifanc sydd am ddysgu Cymraeg am y tro cyntaf neu sydd am wella eu Cymraeg i fanteisio ar y cyfle hwn.”{

Meddai Cefin Campbell AS, Aelod Dynodedig:

“Dylai pawb yng Nghymru gael y cyfle i ddysgu’r Gymraeg a phrofi manteision diwylliannol a chymdeithasol gwneud hynny.

Mae cyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc a’r rheini sydd yn y proffesiwn addysgu yn gam arall ymlaen tuag at ei gwneud mor hawdd â phosibl i ddysgu a siarad Cymraeg ac i gyflawni’r targed o gael miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg.”

%d bloggers like this: