04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwestai i ddarparu llety brys i weithwyr allweddol

MAE gwestai, tai llety a llety hunanarlwyo yn Sir Gaerfyrddin wedi dod ynghyd i ddarparu llety brys i weithwyr rheng flaen.

Mae Gwesty’r Diplomat yn Llanelli a’r Ivy Bush Royal yng Nghaerfyrddin eisoes wedi agor eu drysau i weithwyr allweddol gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal cartref mewn ymateb i’r coronafeirws.

Mae darparwyr llety eraill sy’n cymryd rhan yn cynnwys Llety Cynin yn Sanclêr, Boar’s Head a Drover’s Arms yng Nghaerfyrddin, Gwesty Emlyn yng Nghastellnewydd Emlyn, Tŷ Mawr Country Hotel ym Mrechfa, Plough Inn a Gwesty’r Cawdor yn Llandeilo, Vista Hotel yn Llanelli a Brown’s Hotel yn Nhalacharn. Mae tai llety a llety hunanarlwyo hefyd wedi cynnig eu gwasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwyf wrth fy modd gyda nifer y busnesau sydd eisoes wedi cysylltu ac wedi cynnig agor eu safleoedd a darparu llety brys i staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal critigol. Bydd hyn yn galluogi gweithwyr brys i barhau i weithio a darparu gofal critigol yn ein hysbytai a’n cymunedau pe bai rhywun sy’n byw gyda nhw yn dangos symptomau’r coronafeirws. Bydd hefyd yn galluogi meddygon sy’n gweithio sifftiau ychwanegol y mae eu hangen mewn argyfwng i fod yn agosach i’r ysbytai. Mae nifer ohonynt eisoes wedi cysylltu â ni, ac mae rhai yn darparu llety eisoes, ond rydym eisiau sicrhau bod cynifer o opsiynau â phosibl ar gael i ni pe bai’r galw am leoedd fel hyn yn cynyddu.”

%d bloggers like this: