03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Gwisgoedd hanfodol meddygol ar waith mewn tri safle yng Nghymru

MAE Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi datgelu bod gwaith hanfodol i gynhyrchu gwisgoedd meddygol ar gyfer y GIG wedi dechrau ar dri safle ledled Cymru.

Pan gafodd Llywodraeth Cymru eu hysbysu y byddai’r Dwyrain Canol a’r is-gyfandir yn rhoi’r gorau i gynhyrchu ar ddiwedd Mawrth o ganlyniad i’r coronafeirws, gweithredodd ar unwaith i sicrhau cyflenwad sylweddol o ddefnydd o farchnad y DU fel y gellid ei ddefnyddio i gynhyrchu hyd at 2500 o wisgoedd yr wythnos yng Nghymru.

Anfonodd Llywodraeth Cymru y defnydd a gafodd ei brynu yn syth i Alexandra, cwmni o fewn y DU sy’n darparu gwisgoedd i’r GIG, ond mae’n hynod ddibynnol ar farchnadoedd tramor am y defnydd a’r cynhyrchu.  Gan nad oedd gan Alexandra lawer o ddefnydd, roeddent yn fwy na pharod i dderbyn y cyflenwad hwn.

Yna cysylltodd Llywodraeth Cymru Alexandra gyda busnesau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru allai helpu i wnïo y gwisgoedd ac mae’r cynhyrchu wedi dechrau mewn tri safle ledled Cymru.  Y rhain yw:

ELITE Clothing Solutions, menter cymdeithasol yng Nghlyn Ebwy ac o fewn ardal Tasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru, oedd wedi rhoi eu gweithwyr ar seibiant oherwydd y cyfyngiadau symud. Mae ganddynt bellach 15 o staff yn ôl yn y gwaith yn gwnïo i gefnogi’r ymdrech yng Nghymru i gynhyrchu gwisgoedd.
Brodwaith, ar Ynys Môn, sydd â rhwng 13 a 15 o bobl yn dod yn ôl o seibiant i gynhyrchu y Cyfarpar Diogelu Personol y mae mawr angen amdano.
Workplace Worksafe, o Rhuthun, sydd wedi dod â 13 o beirianwyr yn ôl o seibiant i weithio ar roi gwisgoedd at ei gilydd.

Mae pob un o’r gweithwyr hyn bellach yn ôl ar gyflog llawn.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, sy’n gyfrifol am Dasglu’r Cymoedd:

“Mae sicrhau bod gan ein gofalwyr iechyd arwrol yr offer y maent ei angen i wneud eu swyddi yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg yn bwysig iawn.

“Rydym yn gweithio’n galed i gyflenwi’r GIG gan ei fod yn rhoi gofal o safon uchel i bobl sydd â’r coronafeirws, a byddwn yn parhau i wneud hynny.

“Rydym hefyd wedi gweld cyfle i sicrhau cyflenwad o’r defnydd oedd angen mawr amdano, a dod â thair menter o Gymru at ei gilydd i ymuno â ni i ymladd yr argyfwng iechyd cenedlaethol hwn.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i ddiogelu staff y rheng flaen a hefyd helpu iddynt achub bywydau.”

Meddai Prif Swyddog Gweithredol ELITE Clothing Solutions, Andrea Wayman:

“Mae ELITE Clothing Solutions yn hynod falch o gefnogi’r GIG, trwy gydweithio â gweithgynhyrchwyr eraill o Gymru, i gynhyrchu gwisgoedd fydd yn helpu i ddiogelu staff y GIG yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

“Fel menter gymdeithasol, ein prif nod yw cefnogi ein cymunedau, ac mae’r GIG a’r sector gofal yn ganolog ar hyn o bryd i anghenion ein cymunedau.”

%d bloggers like this: