04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

w

Gwybodaeth am Gronfa Argyfwng i Fusnesau Covid-19

DIBEN y Gronfa Argyfwng i Fusnesau yw cefnogi busnesau yn y sectorau hamdden, twristiaeth, manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd. Os ydych chi yn talu ardrethi busnes efallai fyddach yn cymwys am y Cronfa Argyfwng Ardrethi Annomestig

Ar gyfer y cyfnod rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022, mae’r Gronfa Argyfwng i Fusnesau wedi cael ei chyflwyno i helpu busnesau gyda’u llif arian uniongyrchol, a’r bwriad yw cwmpasu effaith fusnes a chanlyniadau economaidd y cyfyngiadau ychwanegol angenrheidiol a gyflwynwyd ar 26 Rhagfyr 2021 er mwyn rheoli lledaeniad Covid-19.

Grant A:

Taliad grant arian parod o £1,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, a busnesau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi, nad ydynt yn cyflogi neb ar wahân i’r perchennog, ac nad oes ganddynt eiddo.

Grant B:

Taliad grant arian parod o £2,000 ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth, manwerthu, hamdden, a busnesau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi, sydd yn cyflogi staff drwy’r cynllun Talu Wrth Ennill (yn ogystal â’r perchennog).

Pwy sy’n gymwys i wneud cais am y grant hwn?

Gall busnesau sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd canlynol fod yn gymwys i gael y grant:

  • Busnesau oedd yn masnachu cyn a hyd at 13 Rhagfyr 2021 a bod disgwyl iddynt fasnachu tan 14 Chwefror 2022
  • Rhaid i’r busnesau fod yn gweithredu yng Nghymru
  • Busnesau sydd â throsiant blynyddol o £10,000 o leiaf
  • Rhaid mai’r busnes yw prif ffynhonnell eich incwm (>50%)
  • Rhaid i’r busnesau a gaiff gymorth geisio cynnal cyflogaeth tan o leiaf 14 Chwefror 2022
  • Dim ond un cais fesul busnes a dderbynnir

Beth ydym yn ei olygu wrth ‘gweithiwr llawrydd’?

Gall gweithwyr llawrydd fod yn rhedeg eu busnes eu hunain, ac maent yn cael eu diffinio’n aml fel hunangyflogedig, er eu bod ychydig yn wahanol. Efallai bydd gweithwyr llawrydd yn cyflawni nifer o swyddi ar ran gwahanol gwmnïau, ac yn aml maent yn tueddu i weithio ar eu pennau eu hunain. Mae tuedd gan weithiwr llawrydd i weithio ar nifer o gontractau tymor byr, gan gynnig gwasanaethau ac amser i sefydliadau am ffi y cytunwyd arni.

Ni fydd busnesau’n gymwys i gael y grant os ydynt yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:

  • Wedi’i orfodi i gau ar ôl torri’r rheolau cadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, os oes gwelliannau wedi’u gwneud a bod y busnes wedi cael ailagor, mae’n bosibl y bydd yn gymwys i gael y grant (yn amodol ar fodloni’r meini prawf cymhwysedd)
  • Wedi cael ei ddiddymu neu yn y broses o gael ei ddiddymu
  • Wedi mynd yn groes i’r trothwy cymhorthdal
  • Os nad y busnes rydych yn gwneud cais ar ei gyfer yw eich prif ffynhonnell incwm
  • Busnes hunanarlwyo i lai na 30 o bobl ydyw
  • Mae eich busnes yn talu ardrethi busnes (yn cynnwys os ydych yn derbyn rhyddhad ardrethi)
  • Os ydych wedi derbyn cyllid yn ystod y 12 mis diwethaf sy’n fwy na 100% o’ch trosiant ym mlwyddyn ariannol 2019, ni ddylech wneud cais i’r gronfa hon.

I gael rhagor o wybodaeth am gyngor ariannol a chymorth arall sydd ar gael, ewch i Busnes Cymru.

Sylwer:

  • Diffinnir busnesau’r gadwyn gyflenwi fel busnes sy’n cynhyrchu 60% neu fwy o’i refeniw gwerthiant o fusnesau yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau.
  • Diffinnir busnesau manwerthu fel y rhai a fyddai fel arfer yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi fel y nodir yma ar Busnes Cymru. Ar gyfer y cynllun hwn, bydd yr un cymhwysedd yn berthnasol er na fydd ymgeiswyr yn talu ardrethi busnes.
  • Mae effaith sylweddol yn golygu gostyngiad o >40% ym mis Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022 o gymharu â Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020 (neu gyfnod tebyg o ddau fis os nad oedd y busnes yn masnachu yn Rhagfyr 19 ac Ionawr 20).

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais?

Gwneir penderfyniadau ar geisiadau yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen gais, tystiolaeth gysylltiedig, a gwiriadau gwybodaeth a gynhelir gan ddefnyddio ffynonellau data busnes eraill. Os bydd unrhyw ddata yn anghyflawn neu’n anghywir neu os yw’r dystiolaeth a ddarperir yn annigonol, ni chaiff eich cais ei brosesu a chaiff ei wrthod.

  • Ceisiadau llwyddiannus: Telir grantiau’n llawn i fanylion y cyfrif banc a ddarperir.
  • Ceisiadau aflwyddiannus: Byddwch yn derbyn e-bost yn amlinellu’r rheswm/rhesymau dros wrthod. Nid oes proses apelio.

Efallai y bydd angen ad-dalu’r grant yn llawn, neu’n rhannol, os daw tystiolaeth i’r amlwg nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y Gronfa Argyfwng i Fusnesau.

Rheoli Cymorthdaliadau:

Bydd angen i chi ddatgan y cymhorthdal hwn i unrhyw gorff dyfarnu cymorth arall sy’n gofyn am wybodaeth gennych ynghylch faint o gymorth rydych wedi ei gael. Gallai enghreifftiau gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd, Grant Cychwyn Busnes, Grantiau Ardrethi Annomestig, ond nid y Cynllun Cadw Swyddi na’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth. Os ydych yn ansicr, nodwch y cymorth.

Sut mae gwneud cais:

Gallwch wneud cais am y grant ar-lein. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau’r cais:

  • Gwybodaeth am y busnes – Wrth nodi nifer y gweithwyr, dylech nodi nifer y staff sy’n gweithio yn y busnes gan gynnwys y perchennog.
  • Manylion personol
  • Manylion banc

Bydd ceisiadau am y grant yn cau am 5pm ar 14 Chwefror 2022.

%d bloggers like this: