MAE disgwyl i dri chynllun gwella eiddo sylweddol fynd yn eu blaen yng nghanol trefi Caerffili a Choed Duon, gan ategu’r cynigion llywio lleoedd ehangach y cytunwyd arnyn nhw yn ddiweddar gan Gabinet Caerffili.
Bydd y buddsoddiad gwerth £680,909, o ganlyniad i gyllid gan raglen Cronfa Canol Trefi – Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, yn golygu bydd y gymuned yn adfywio adeiladau gwag a segur ledled y Fwrdeistref Sirol, a gobeithio y bydd yn creu swyddi, buddsoddiad a chyfleoedd.
Ceir ragor o wybodaeth am Gronfeydd Canol Trefi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar safle CronfaCanolTrefi@caerffili.gov.uk
Mae £250,000 wedi’i ddyfarnu i Ganolfan y Glowyr, Caerffili, i’r gymuned adnewyddu ail lawr gwag a segur yr adeilad eiconig hwn, sef hen Ysbyty Glowyr Caerffili. Bydd y prosiect yn ailddatblygu hyd at 175m² o arwynebedd llawr gan greu hyb cydweithio newydd i hyd at 10 o fentrau busnes bach gyda gwell fynediad i ddefnyddwyr.
Dywedodd Katherine Hughes, Canolfan y Glowyr, Caerffili;
“Bydd cyfleoedd i fentrau lleol ddarparu gwasanaethau i’n cymuned o Ganolfan y Glowyr yn gwella’r hyn y gallwn ni ei gyfrannu at yr economi leol yn sylweddol, yn ogystal â chefnogi lles a chynaliadwyedd y gymuned. Bydd y cyllid yn ein galluogi ni i fwrw ymlaen â’n prosiect adfywio sydd mawr ei angen, ac mae croeso mawr amdano.”
Bydd hen adeilad Store 21 yn rhif 87–89 Y Stryd Fawr, Coed Duon, hefyd yn elwa ar hwb ariannol gwerth £250,000 i ddarparu datblygiad masnachol a phreswyl defnydd cymysg. Bydd y cynigion uchelgeisiol yn trawsnewid yr adeilad mawr, a oedd yn adfeiliedig yn flaenorol, yn eiddo modern a deniadol sy’n cynnwys 5 uned busnes masnach ar y llawr cyntaf a fflatiau preswyl ar y lloriau uchaf.
Mae cyllid gwerth £180,909 wedi’i ddyfarnu i eiddo Brew Monster Ltd yn Lôn-y-twyn, Caerffili, i adnewyddu’r hen uned Plumbsave yn fragdy a meicro-fragdy o safon uchel newydd sbon. Bydd hanner yr adeilad ar ei newydd wedd yn cael ei ddefnyddio fel bar bragdy, yn gweini cwrw crefft a bwyd ffres, wrth gynnig golygfa heb ei thebyg o 270 gradd dros y bragdy. Mae’r datblygwyr tu ôl i’r prosiect yn gobeithio y bydd y lleoliad newydd yn dod yn hyb cymunedol poblogaidd a chyrchfan uchel ei barch i dwristiaid, sy’n cynhyrchu cwrw crefft aml-wobrwyol o ansawdd uchel a’r unig far cwrw crefft yng Nghaerffili.
Dywedodd Glenn White, Cyfarwyddwr Rheoli Brew Monster;
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Dîm Adfywio Caerffili am y cymorth. Roedd y tîm yn ganolog i’n penderfyniad i adleoli ein busnes i Gaerffili, a gyda’i gymorth rydyn ni’n creu un o feicro-fragdai gorau’r Deyrnas Unedig a’r bar bragdy mwyaf unigryw, wrth greu swyddi, helpu’r economi leol a thynnu sylw yn ôl at Gaerffili fel cyrchfan cwrw gwych.”
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am yr Economi;
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gallu dyfarnu cyllid sylweddol i ganiatáu i’r tri adeilad hyn gael eu trawsnewid a chael eu defnyddio yn y gymuned eto. Mae’r fframwaith Llywio Lleoedd yn gwbl hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig coronafeirws i ddarparu gobaith i drigolion trwy arddangos ein hymrwymiad i adfywio trefi a phentrefi ledled y Fwrdeistref Sirol.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m