04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Glanhau Taith Taf yn drylwyr ar ôl blwyddyn brysuraf erioed

MAE’R pedair milltir ar ddeg o Daith Taf sy’n rhedeg drwy Ferthyr Tudful wedi dychwelyd i’w cyflwr cysefin ar ôl blwyddyn hir o draul a hynny ar ôl sesiwn cynnal a chadw a glanhau trylwyr.

Mae’r Daith yn edrych ar ei gorau ar ôl i dîm Glanhau Strydoedd y Cyngor dreulio  x dydd yn sgubo pob llwybr cerdded yn fecanyddol – yr oedd modd cael mynediad atynt; cael gwared ar 40 tunnell o gerrig, malurion a gwastraff gwyrdd – ac ysgubo llwybrau troed â llaw nad oes modd cyrraedd atynt gyda cherbydau ysgubo.

Mae’r tîm wedi gwneud eu ffordd o mor bell i’r gogledd â Ffynnon Dwyn, Pontsticill i Fryngolau, Aberfan yn ne’r fwrdeistref sirol, a hyd yma maen nhw wedi casglu mwy na 150 o fagiau’n llawn deunydd ailgylchadwy a 130 o fagiau o sbwriel. Maen nhw parhau i weithio hyd at y ffin â Rhondda Cynon Taf.

Talwyd am y gwaith glanhau gan dîm Heini Merthyr y Cyngor. Dywedodd y Swyddog Datblygu Chwaraeon, Jennifer Evans:

“Gyda nifer cynyddol o ddefnyddwyr ar y llwybrau dros y flwyddyn ddiwethaf, meddylion ni y byddai’n syniad da i ddefnyddio peth o’n harian i dalu am waith cynnal a chadw i Daith Taf.”

Datgelodd arolwg diweddar y Cyngor fod cynnydd o fwy na 90% o ran ymweliadau â Thaith Taf wedi eu recordio yn ystod y tri chyfnod clo.

Drwy 2020 yn ei chyfanrwydd, cafwyd cynnydd o 49% yn y nifer o ymweliadau, tra bo’r cyfnodau clo wedi gweld ffigurau’n codi 92% – o 186,075 am yr un cyfnodau yn 2019 i 357,301 yn 2020.

Cofnodwyd cyfanswm o ran nifer yr ymwelwyr yn 723,377 ymweliad yn 2020 o’i gymharu â 486,916 yn 2019.

Ychwanegodd Jennifer Evans:

“Mae wedi bod yn ffantastig gweld y llwybrau a’r gwagleoedd agored yn cael eu defnyddio gymaint – hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf. Fodd bynnag, ar ôl y tywydd gaeafol, a llawer mwy o ymwelwyr, roedd yn amlwg fod angen glanhau’r llwybrau’n drylwyr,”

“Bydd hyn yn darparu’r cyfleusterau awyr agored gorau i breswylwyr ar gyfer eu hanghenion ymarfer corff dros fisoedd yr haf sydd i ddod. Er hynny, rydym yn apelio arnynt i gadw’r llwybrau’n lân a pheidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl ac i gymryd eu sbwriel adref gyda nhw.”

%d bloggers like this: