04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lansio llwybrau stori awyr agored newydd sy’n Ystyriol o Blant ar draws y ddinas

BYDD cyfres o lwybrau adrodd straeon awyr agored newydd sbon ar draws Caerdydd yn dechrau agor i’r cyhoedd o ddiwedd y mis hwn.

Wedi’u cyflwyno fel rhan o raglen Dinas Sy’n Dda i Blant Caerdydd, mae’r pedwar llwybr pwrpasol wedi’u creu gan y storïwr o Gaerdydd Tamar Williams, pob un yn darlunio hanesion am fythau a chwedlau Cymreig.

Nod y fenter yw cynyddu cyfleoedd chwarae yn yr awyr agored drwy annog plant a theuluoedd i gael hwyl yn yr awyr agored wrth ymgysylltu â’r amgylchedd o’u cwmpas. Yn ogystal â mynd â phlant ar daith drwy’r stori drwy godau QR, byddant hefyd yn cael eu hannog i wneud rhwbio rhisgl, adeiladu gyda ffyn a darganfod lleoedd cyfrinachol o fewn y parciau.

Bydd y llwybr cyntaf yn agor i’r cyhoedd o ddydd Sadwrn 27 Mawrth ac mae wedi’i leoli ym Mharc Bute, gan ddechrau gyda chod QR wrth fynedfa Stryd y Castell ger Ystafelloedd Te Pettigrew. Llwybrau Stori Parc Bute : Child Friendly Cardiff

Bydd tri llwybr arall yn cael eu lansio yn ddiweddarach yn y gwanwyn, sydd wedi’u lleoli ym Mae Caerdydd, Fferm y Fforest a Pharc Cefn Onn. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae’r straeon wedi’u cofnodi mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:

“Mae chwarae yn yr awyr agored bob amser wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad plant, gan helpu ‘w hymgysylltu â’u hamgylchedd a’u hamgylchedd.

“Mae pwysigrwydd a ffocws chwarae yn yr awyr agored wedi’i gryfhau ymhellach yn ystod COVID-19. Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau sy’n Ystyriol o Blant i helpu i wella’n uniongyrchol o effaith y pandemig, gan helpu i hybu iechyd a lles ymhlith teuluoedd ifanc tra’n cyfrannu at gyfleoedd chwarae cynaliadwy.”

Pan ofynnwyd iddi am y prosiect, dywedodd Tamar Williams:

“Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd ac rwyf wedi byw yma am y rhan fwyaf o’m bywyd, ond rwy’n dal i gredu bod gan y ddinas gymaint o leoedd cyfrinachol i’w harchwilio. Credaf y dylai adrodd straeon fod i bawb, a bod straeon yn anhepgor wrth adeiladu byd iach. Rwy’n gobeithio y bydd y llwybrau stori hyn yn annog plant a’u teuluoedd i fynd oddi ar yr un hen lefydd, dod o hyd i leoedd hudol newydd, a mwynhau eu crwydro, i gyd wrth wrando ar straeon.”

Mae gweledigaeth Caerdydd sy’n Ystyriol o Blant, yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau’r ddinas ac mae hwn yn un o nifer o brosiectau i’w cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan sy’n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd.

Yn ddiweddar, cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF DU) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi’i chwarae fel un o’r rhai cyntaf i ymuno â’i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Ystyriol o Blant a bod cynnydd da wedi’i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau’r Cyngor a’r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a’u meithrin.

I gydnabod hyn, mae UNICEF DU wedi argymell bod Caerdydd yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy’n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.

Dywedodd Naomi Danquah, Cyfarwyddwr Rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy’n Ystyriol o Blant UNICEF DU:

“Mae’r hawl i chwarae yn hawl ddynol sylfaenol, yr un mor bwysig â hawl plant i addysg, neu eu diogelu rhag niwed.

“Mae’n wych gweld Caerdydd yn creu mwy o gyfleoedd i blant hawlio eu hawl i chwarae ar draws y ddinas, yn enwedig wrth iddyn nhw ddod allan o flwyddyn mor heriol.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:

“Byddwn yn parhau i gyflawni ein gweledigaeth i ymgorffori hawliau plant ymhellach yn ein cymunedau, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.”

 

%d bloggers like this: