03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llacio cyfyngiadau coronafeirws Cymru ymhellach

MAE’R Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd sinemâu, amgueddfeydd a salonau harddwch yn gallu ailagor o ddydd Llun, wrth i gyfyngiadau coronafeirws Cymru barhau i gael eu llacio.

Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau a rennir, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn (25 Gorffennaf) ymlaen, ynghyd ag atyniadau tanddaearol. Dyma nodi carreg filltir bwysig gan y bydd atyniadau Cymru i ymwelwyr yn ailagor yn llawn.

Hefyd, bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun (27 Gorffennaf).

Dyma’r cam diweddaraf yn y broses o ailagor sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu Cymru yn raddol. Yn ogystal â salonau harddwch, parlyrau ewinedd, siopau tatwio, sinemâu, arcedau difyrion, amgueddfeydd ac orielau, bydd y rheoliadau coronafeirws hefyd yn cael eu diwygio i ganiatáu i’r farchnad dai ailagor yn llawn.

Ond er bod dileu’r cyfyngiadau yn caniatáu i’r holl fusnesau hyn ailagor, nid yw’n gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Diolch i ymdrechion pob un ohonon ni i leihau lledaeniad y feirws, rydyn ni’n cymryd camau pellach i ailagor rhagor o Gymru.

“Mae ein busnesau manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn ein heconomi, a bydd rhagor ohonyn nhw’n dechrau croesawu cwsmeriaid a gwesteion yn ôl o yfory ymlaen.

“Wrth i ragor o lefydd ddechrau ailagor, rhaid inni ddod i arfer ag ambell i newid i’n diogelu ein hunain a’r bobl sy’n gweithio yn y busnesau hyn. Gallai hyn olygu gorfod cadw lle ymlaen llaw neu roi ein manylion i’r llefydd rydyn ni’n ymweld â nhw, er mwyn cefnogi ein gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, rhag ofn y daw achosion o’r coronafeirws i’r amlwg.

“Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i gadw at y rheolau newydd hyn fel y gallwn ni ddiogelu ein hunain a’n hanwyliaid.

“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Ond os byddwn ni i gyd yn cydweithio, gallwn ni ddiogelu Cymru.”

 Bydd yr adolygiad ffurfiol nesaf o’r rheoliadau yn cael ei gynnal erbyn 30 Gorffennaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer agor tafarndai, bariau, caffis a bwytai dan do.

%d bloggers like this: