12/03/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Llwybr Teithio Llesol newydd yn agor yng Nghastell-nedd

MAE llwybr Teithio Llesol newydd wrth ochr llwybr y gamlas rhwng Castell-nedd a Thonna newydd gael ei gwblhau.

Dyma’r diweddaraf yn rhwydwaith gynyddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot o lwybrau Teithio Llesol, a bydd yn mynd â defnyddwyr o Stryd y Bont yng Nghastell-nedd i bwynt wrth ochr canolfan Nwy Calor yn Nhonna.

Comisiynwyd y contractwyr Jones Brothers (Henllan) Ltd gan y Cyngor i weithio ar y llwybr newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ym mis Ionawr eleni.

Dwy uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a seiclo newydd, gobaith Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw gwneud Teithio Llesol yn ddewis ‘normal’ i deithio’n lleol, gan wella ansawdd awyr, hybu ffyrdd iachach o fyw a gwneud i gymunedau lleol fod yn fwy deniadol fel lleoliadau i fyw a gweithio ynddyn nhw.

Meddai’r Cynghorydd Leanne Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a chynghorydd ward Tonna:

“Yn ogystal â helpu lleihau carbon a gwella ansawdd ein hawyr, mae siwrneiau Teithio Llesol yn dda i’n hiechyd yn gyffredinol am eu bod nhw’n gwella ffitrwydd a llesiant.

“Bydd y llwybr newydd hwn ar hyd llwybr y gamlas yn lleol yn helpu i wneud teithiau rhwng Castell-nedd a Thonna ar droed neu ar gefn beic yn haws a mwy diogel i bawb. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl sydd ddim yn cerdded neu’n seiclo’n aml ar hyn o bryd, ynghyd â phobl sy’n defnyddio offer symudedd.

“Mae llwybrau Teithio Llesol wedi bod yn flaenoriaeth i’r cyngor ers cryn amser. Yn ogystal â’r manteision maen nhw’n eu darparu i iechyd corfforol a meddyliol, mae modd iddyn nhw leihau baich trwm ar ein gwasanaeth iechyd sy’n dod yn sgil trin salwch a allai gael ei osgoi, ac wrth gwrs bydd busnesau’n elwa o gael gweithlu iachach.

“Ac ni ddylem anghofio am gyfraniad y llwybrau hyn i greu llai o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd, ynghyd â’r effaith bosib o leihau newid hinsawdd.”

%d bloggers like this: