04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sŵ’r goedwig law yn dathlu genedigaeth rhywogaeth mewn perygl

MAE staff Plantasia yn dathlu genedigaeth dwy rywogaeth mewn perygl yn eu lleoliad yn Abertawe.

Ar ddechrau mis Ebrill ganwyd crwban yr Aifft bach, ac yn fuan ar ôl hynny ganwyd nythaid o gywion Ffesant Edwards.

Mae’r ddwy rywogaeth mewn perygl difrifol yn y gwyllt, ac mae’r genedigaethau’n hwb mawr i frwydr y sŵau yn erbyn difodiant rhywogaethau.

Dywedodd Michael Colwill, Rheolwr Sŵ ac Addysg:

“Mae’r babanod yn hwb mawr i’n gwaith cadwraeth. Maent yn amlygu pwysigrwydd sŵau wrth helpu goroesiad llawer o rywogaethau ledled y byd.”

Wrth i’r babanod newydd ddatblygu, efallai na fyddant ar gael i’w gweld gan y cyhoedd drwy’r amser pan fydd Plantasia’n ailagor ddydd Llun 17 Mai, ond bydd llawer o anifeiliaid newydd eraill i ymwelwyr gwrdd â nhw.

Rheolir Plantasia gan Parkwood ar ran Cyngor Abertawe.

Meddai Robert Francis-Davies:

Aelod Cabinet y cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae cyrhaeddiad yr anifeiliaid newydd eu geni hyn yn newyddion da i Plantasia, ei staff ac ymwelwyr. Mae’n dangos ymrwymiad y lleoliad i safonau uchel, cadwraeth ac addysg.

“Mae ein partneriaeth lwyddiannus gyda Parkwood – gan gynnwys buddsoddiad llwyddiannus o £1.1m – yn darparu profiad gwych i gwsmeriaid; edrychwn ymlaen at ailagor ei ddrysau i ymwelwyr, ac mae’r ymdrechion parhaus i wneud Plantasia y gorau y gall fod yn dangos bod y lleoliad a’r cyngor yma i Abertawe.”

 

%d bloggers like this: