04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn cael eu cyflwyno yng Nghymru o’r wythnos hon.

YN y cyfnod diweddaraf hwn o’r rhaglen frechu bydd pobl dros 75 oed, pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn cael gwahoddiad i fynd am eu brechiad atgyfnerthu.

Yn ogystal, bydd plant 5 i 11 oed yn dechrau cael cynnig eu brechlyn cyntaf o heddiw ymlaen hefyd. Bydd angen i rieni a gwarcheidwaid roi caniatâd iddyn nhw gael y brechlyn.

Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyfnod diweddaraf y rhaglen frechu ers sawl mis.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae pawb sy’n gymwys am frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn yn cael eu hannog i aros am eu gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd neu eu meddyg teulu.

Daw hyn ar ôl i Eluned Morgan dderbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i roi brechiad atgyfnerthu arall i bobl sy’n wynebu risg uwch o gael COVID-19 difrifol.

Cynghorir brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn oddeutu 6 mis ar ôl y dos diwethaf o’r brechlyn i gynnal lefelau uchel o imiwnedd ar gyfer y rheini y bernir eu bod yn fwyaf agored i niwed.

Mae byrddau iechyd hefyd yn cynnig apwyntiadau i blant 5 i 11 oed ar gyfer eu brechlyn cyntaf. Dyma gynnig rhagofalus i gynyddu eu himiwnedd yn erbyn COVID-19 difrifol cyn ton bosibl yn y dyfodol ac i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar eu haddysg.

Bydd y rhan fwyaf o blant 5 i 11 oed yn cael cynnig dau ddos o’r brechlyn, 12 wythnos ar wahân.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Mae’n bwysig ein bodyn cynnal lefelau uchel o amddiffyniad rhag COVID-19 a bod pawb sy’n cael cynnig brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn yn derbyn y  gwahoddiad.

“Rydym yn dilyn y cyngor diweddaraf gan JCVI a byddem yn annog pawb sy’n gymwys i aros i gael cynnig eu brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn.”

%d bloggers like this: