04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae deddfau newydd yn cael eu cyflwyno i wneud tir ysgolion a meysydd chwarae yng Nghymru yn ddi-fwg o 1 Mawrth / School grounds and playgrounds across Wales to be smoke-free from March 1

MAE’Nn ychwanegol at y gwaharddiad ar ysmygu a gyflwynwyd yn 2007 a bydd yn amddiffyn mwy o bobl rhag niwed mwg ail-law ac yn helpu’r rheiny sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.

Bydd yn golygu y bydd tir ysgolion a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal dydd plant a gwarchod plant a thir ysbytai, yn ddi-fwg.

Gallai unrhyw un sy’n cael ei weld yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100.

Cymru yw’r rhan gyntaf o’r DU i wahardd ysmygu yn yr ardaloedd hyn, a fydd yn dad-normaleiddio ysmygu ac yn lleihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf – gan arbed bywydau yn y pen draw.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn gwybod am y niwed y gall ysmygu ei wneud i’n hiechyd, felly rwy’n edrych ymlaen at gael cefnogaeth y rhai sy’n ymweld â’n meysydd chwarae a’r staff, rhieni, gwarcheidwaid ac ymwelwyr sy’n defnyddio’n hysgolion a lleoliadau gofal plant i sicrhau ein bob ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth adeiladu dyfodol iachach.”

Mae llawer o ysmygwyr eisoes wedi cael eu hysgogi i roi’r gorau i ysmygu o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, a’r gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn annog hyd yn oed mwy o bobl i wneud hynny. Y ffordd orau o roi’r gorau i ysmygu am byth yw trwy dderbyn cymorth wrth ei wneud.

Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, sefydliad sydd ar genhadaeth i gyflawni Cymru ddi-fwg, Suzanne Cass: “Mae’r rhai sy’n dechrau ysmygu cyn 16 oed ddwywaith yn fwy tebygol o barhau i ysmygu o’u cymharu â’r rhai sy’n dechrau yn ddiweddarach mewn bywyd, ac maent yn fwy tebygol o ddod yn ysmygwyr trymach.

“Ers y pandemig COVID-19, mae wedi dod yn bwysicach nag erioed annog ymddygiad iach o gwmpas plant a lleihau’u cysylltiad â mwg ail-law niweidiol.” Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn atal pobl ifanc heddiw rhag dod yn genhedlaeth nesaf o ysmygwyr.

“Rydym yn gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth hon hefyd yn paratoi’r ffordd i fwy o ardaloedd cyhoeddus yng Nghymru fynd yn ddi-fwg.”

Gall y rheiny sydd am roi’r gorau i ysmygu ddefnyddio gwasanaeth cymorth am ddim GIG Cymru, Helpwch Fi i Stopio, drwy ffonio 0800 085 2219 neu fynd i www.helpafiistopio.cymru i gael cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys mynediad at feddyginiaeth am ddim i’ch helpu i roi’r gorau i ysmygu.

NEW laws are being introduced to make school grounds and playgrounds in Wales smoke-free from March 1.

It builds on the smoking ban introduced in 2007 and will protect more people from the harms of second-hand smoke and help those trying to quit.

It will mean that school grounds and public playgrounds, as well as the outdoor areas of children’s daycare and childminding settings and hospital grounds will be smoke-free.

Anyone found breaking the law could face a £100 fine.

Wales is the first part of the UK to outlaw smoking in these areas which will denormalise smoking and reduce the chances of children and young people starting smoking in the first place – ultimately saving lives.

Carmarthenshire County Council’s Executive Board Member for Public Protection Cllr Philip Hughes said: “We know the harm smoking can do to health, so I look forward to having the backing of those visiting our playgrounds and the staff, parents, guardians and visitors using our schools and care settings for children to ensure we all play our part in building a healthier future.”

Many smokers have already been motivated to give up smoking due to the COVID-19 pandemic and it is hoped this new legislation will encourage even more to. Quitting with support provides the best chance of stopping smoking for good.

Chief Executive of ASH Wales, an organisation on a mission to achieve a smoke-free Wales, Suzanne Cass, said: “Those who start smoking before the age of 16 are twice as likely to continue to smoke compared to those who begin later in life, and they are more likely to become heavier smokers.

“We know from the latest ASH Wales YouGov survey that 81% of adult smokers in Wales were aged 18 or under when they tried their first cigarette. It’s crucially important that we prevent today’s young people from becoming the next generation of smokers.

“We hope this legislation will also pave the way for more public areas in Wales to go smoke-free.”

Those looking for help to stop smoking can access Wales’ free NHS support service Help Me Quit on 0800 085 2219 or visit www.helpmequit.wales for help and support, including access to free stop smoking medication.

%d bloggers like this: