04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mynd heibio’r garreg filltir o ddwy filiwn o frechiadau

MAE mwy na dwy filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael brechiad Covid-19, yn ôl y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Hefyd mae’r ffigurau swyddogol yn dangos bod bron i dair miliwn o ddosau o’r brechiad wedi’u rhoi i gyd mewn dim ond chwe mis yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu bod 80% o holl oedolion Cymru wedi cael eu brechiad cyntaf, a bod un o bob tri oedolyn wedi cael eu hail ddos i gwblhau’r cwrs.

Dywedodd Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Eluned Morgan:

“Mae hwn yn gyflawniad gwych mewn cyfnod mor fyr o amser. Rydw i’n eithriadol falch a diolchgar i’r miloedd o bobl – staff y GIG, personél y fyddin a gwirfoddolwyr – sydd wedi gweithio mor galed ledled y wlad er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma.

“Mae brechu’n gwneud byd o wahaniaeth i lwybr y pandemig. Mae pob dos sy’n cael ei roi yn fuddugoliaeth fechan yn erbyn y feirws difrifol yma.”

Ychwanegodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer Brechiadau, Dr Gill Richardson:

“Mae’r ystadegau heddiw’n dangos bod Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall eto drwy ymdrechion gwych ein rhaglen frechu, ein staff gofal iechyd a’r cyhoedd.

“Rydyn ni’n parhau i arwain y ffordd yn y DU wrth geisio brechu cymaint ag y bo modd o’r boblogaeth mor gyflym a diogel â phosibl er mwyn helpu i roi diwedd ar y pandemig yma.

“Mae ein holl dimau brechu ledled Cymru yn destun balchder i mi. Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi golygu bod 95% o’r rheini sydd yn y grwpiau mwyaf agored i niwed wedi cael eu dos cyntaf o leiaf, ac rydyn ni nawr yn gwneud cynnydd gwych wrth symud drwy’r grwpiau oedran iau.

“Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y brechiad wedi bod yn llawer uwch nag a ragwelwyd ond mae wir yn bwysig pan gewch eich galw am eich apwyntiad – boed ar gyfer y dos cyntaf neu’r ail ddos – eich bod yn mynd. Mae pob brechiad wir yn cyfrif.”

Brechiadau yw’r ffordd orau allan o’r pandemig hwn ac maent yn darparu gwarchodaeth gref rhag COVID-19.

Mae Cymru yn parhau i fod ar y targed i gyrraedd ei nod o gynnig brechiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf.

%d bloggers like this: