12/07/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Paratoadau terfynnol ar gyfer ailagor ward ysbyty yn gynnar yn 2020

DAETH codwyr arian a rhanddeiliaid allweddol o Sir Benfro Sir Benfro ynghyd yn ddiweddar i glywed am y cynnydd diweddaraf ar y prosiect gwerth miliynau o buddoedd i adnewyddu Ward 10 Ysbyty Llwynhelyg.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gweithio’n agos â phob un sy’n rhan o’r gwaith er mwyn nodi ffyrdd arloesol i wella profiad y claf yn sylweddol ar Ward 10, yn cynnwys ymgysylltu â chodwyr arian a rhoddwyr, aelodau o Grŵp Rhanddeiliaid Ward 10 (yn cynnwys y Cyngor Iechyd Cymuned), cleifion, staff Ward 10, tîm rheoli’r ysbyty a grwpiau staff allweddol eraill.

Tra bod gwaith adeiladu a pheirianneg yn parhau ar y ward, mae staff a rhanddeiliaid allweddol wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn dewis detholiad o ddelweddau ffotograffig golygfaol, a ddarparwyd gan nifer o ffotograffwyr lleol, fel nodwedd ddylunio ychwanegol. Yn dilyn proses o dynnu rhestr fer a dewis, bydd y gweithiau celf yn cael eu gosod ledled y ward i wella’r amgylchedd ar gyfer cleifion a staff.

Bydd y cyfleusterau newydd yn cryfhau gwasanaethau, yn ogystal â darparu amgylchedd gwell er mwyn gofalu am gleifion oncoleg a hematoleg a’r rhai hynny sydd ag anghenion gofal lliniarol cymhleth. Bydd yr ardaloedd modern a phwrpasol yn gyfeillgar i ddementia, yn cefnogi’r rhai hynny sydd â gofynion bariatreg ac yn cynnwys cyfleusterau gwell i berthnasau. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn dangos ymrwymiad y bwrdd iechyd i ffuddsoddi yn nyfodol Ysbyty Llwynhelyg.

Mae cynllun datblygu’r ward, a ariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn elwa o dros £500,000 o roddion elusennol gan Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y bwrdd iechyd, Apêl Baner Ward 10 Elly, a rhoddion sylweddol gan y diweddar Luke Harding a’i deulu.

Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu cleifion a staff i brofi amgylchedd gwell a mwy cyffyrddus i gael gofal a thriniaeth ynddo, i weithio ynddo, ac i ddarparu’r canlynol:

cysuron ychwanegol i gleifion yn cynnwys system adloniant i gleifion (e.e. setiau teledu), pethau ymolchi brys a chymhorthion golchi gwallt ar gyfer cleifion bregus neu sy’n gaeth i’r gwely;
gwelliannau i amgylchedd y ward yn cynnwys eitemau megisgwell seddi, dillad gwely a llenni arbennig sy’n creu naws fwy cartrefol;
offer arbenigol yn cynnwys padiau synhwyrydd gwely a chadair sy’n lleihau’r risg o gwympo a dyfais chwyddadwy ar gyfer codi cleifion yn fwy diogel;
hyfforddiant staff er mwyn sicrhau bod staff y ward yn meddu ar wybodaeth a sgiliau gwell;
technoleg yn cynnwys dyfeisiau symudol fel bod staff yn dal data cleifion wrth erchwyn y gwely a systemau gweithgaredd therapi rhyngweithiol hel atgofion sy’n ysgogi ac yn tynnu sylw cleifion fel rhan o’u hadferiad yn yr ysbyty.
Yn ogystal, mae camau cychwynnol cynllunio ar y gweill ar gyfer gardd do a fydd yn gyfleuster ychwanegol i’r ward, a bydd yn debygol o gael ei datblygu yn hanner gyntaf 2020.

Meddai Dr Andrew Burns, Cyfarwyddwr Ysbyty Llwynhelyg: “Mae cyffro mawr o weld y ward yn siapo ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ail-agor y cyfleuster i gleifion ddechrau 2020.

“Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid, cynrychiolwyr elusennau a chodwyr arian a staff ar y paratoadau terfynnol dros yr wythnosau nesaf a dymunwn ddweud diolch o waelod calon i bob yr un ohonynt ac i’r gymuned yn Sir Benfro am eu cyfranogiad, eu cefnogaeth a’u haelioni parhaus.”

Ychwanegodd Lyn Neville, tad Elly: ““Mae pob un ohonom sydd ynghlwn wrth Apêl Baner Ward 10 Elly yn falch ac yn gyffrous o weld prosiect Ward 10 yn dod at ei gilydd o’r diwedd. Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi bod yn daith a hanner, ond bydd yn werth chweil gan y bydd yn le hyfryd i gleifion gael gofal ac i staff weithio ynddo.”

Bydd ardal Ward 10 ar ei newydd wedd yn cynnwys pum gwely sengl en-suite single beds er preifatrwydd yn ystod gofal ac ar gyfer mynediad gan gleifion sepsis newtropenig a’r rhai hynny sydd angen cyfleusterau ynysu. Mae baeau llai (2 x bae 4 gwely a 1 x bae 3 gwely) hefyd yn cael eu datblygu yn ogsytal â cyfleusterau gwell ar gyfer perthnasau sy’n aros dros nos ac ystafell ddydd/bwyta penodol i gleifion. Bydd cyfleuster pwrpasol ar gyfer cyfarfodydd a fideo-gynadledda y tîm aml-ddisgyblaethol, yn ogystal â digonedd o le storio er mwyn gwella’r amgylchedd a’i wneud yn fwy diogel ac er mwyn cydymffurfio â’r safonau atal heintiau a diogelwch tân perthnasol.

Am y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i www.bihyweldda.wales.nhs.uk

%d bloggers like this: