09/07/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Paratoi ar gyfer pont droed newydd canol Casnewydd

MAE gosod llwybr cerdded hygyrch o Devon Place i Queensway dros y rheilffordd yn gamp sylweddol o beirianneg a logisteg.

Rhaid cwblhau’r gwaith dros y rheilffordd pan nad oes trenau’n rhedeg felly mae disgwyl iddo gael ei wneud dros y Nadolig eleni.

Fel rhan o’r gwaith paratoi safle, mae angen symud cerflun dur gan yr artist Harvey Hood. Comisiynwyd archffurf gan Network Rail mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd Network Rail yn rhoi ei gerflun mewn storfa dros dro nes y gellir cwblhau cynlluniau ar gyfer cartref parhaol newydd ar ei dir, lle bydd yn gallu cael ei weld gan y cyhoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau’r ddinas:

“Mae hwn yn brosiect peirianneg cymhleth sydd wedi bod ar y gweill ers rhai blynyddoedd ond sydd bellach yn gallu mynd rhagddo ar ôl cwblhau’r gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd.

“Bydd llawer o drigolion yn cofio’r hen bont droed, gyda’i grisiau serth y naill ochr a’r llall, a ddisodlwyd gan yr isffordd yn y 1970au. Roedd isffyrdd yn ffordd boblogaidd o wella llwybrau cerdded yn y 1970au ond bydd y bont droed newydd yn cynnig dewis amgen diogel a hygyrch i’r 21ain Ganrif.

“Rwy’n falch y bydd Network Rail yn dod o hyd i gartref newydd ar gyfer cerflun Harvey Hood. Mae’r rheilffordd wedi chwarae rhan bwysig yng Nghasnewydd ers y 19eg ganrif ac mae’r gwaith celf hwn yn talu teyrnged i sgiliau peirianneg arloeswyr rheilffyrdd Fictoraidd.”

Meddai Maura Nelson, noddwr cysylltiol yn Network Rail:

“Bydd y bont droed newydd hon yn hwb mawr i Gasnewydd – gan ddarparu llwybr mwy diogel a chroesawgar i feicwyr, cerddwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn.

“Er mwyn helpu i wneud i hyn ddigwydd rydym yn symud cerflun yr ‘Archffurf’ dros dro o’i leoliad presennol ar Queensway.

“Mae cerflun eiconig Harvey Hood wedi bod yn rhan o dreftadaeth Gorsaf Casnewydd ers degawdau a byddwn yn ei ddychwelyd i’w arddangos i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl.”

%d bloggers like this: