04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pleidleiswyr Cymru cefnogi rheoleiddio cryf gyda cefnogaeth drawsbleidiol am reolau sy’n cadw Cymru’n ddiogel

MAE pôl piniwn newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Unchecked yn dangos bod pleidleiswyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru yn frwd o blaid rheoliadau mewn bywyd cyhoeddus, ac yn eu gwerthfawrogi am eu rôl o ran sicrhau bod cymdeithas yn rhedeg yn rhwydd, o ran darparu amodau cyfartal i fusnesau, ac amddiffyn teuluoedd yng Nghymru.

Gyda goblygiadau mawr ar gyfer llwyfannau’r pleidiau yn etholiadau’r Senedd eleni, mae mwyafrif y pleidleiswyr o bob argyhoeddiad gwleidyddol o blaid cynnal neu gynyddu rheoleiddio.  Gan chwalu’r chwedlau yn ymwneud â phleidleiswyr Brexit sydd ag ofn rheoliadau, mae’r pôl piniwn hefyd yn dangos bod pleidleiswyr a oedd o blaid ac yn erbyn Brexit yn cefnogi rheoliadau synnwyr cyffredin, cryf.

Mae’r pôl piniwn yn dangos:

Hoffai 70% o bleidleiswyr yng Nghymru weld busnesau mawr yn cael eu rheoleiddio mwy, neu weld y lefelau presennol yn cael eu cynnal, gyda 4% yn unig yn mynegi’r awydd i fusnesau mawr gael eu rheoleiddio llai;

Mae pleidleiswyr yng Nghymru o blaid cadw neu gryfhau rheolau sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd, fel diogelu cynefinoedd a bywyd gwyllt, diogelwch bwyd a safonau hylendid, gwarchod iechyd a diogelwch yn y gweithle, a rheoliadau ar gynhyrchu a defnyddio cemegau;

Ceir cefnogaeth ar gyfer rheoliadau yn uchel ymhlith pleidleiswyr a oedd o blaid ac yn erbyn Brexit.  Er enghraifft, mae 78% o’r rhai a bleidleisiodd i adael yr UE o’r farn y dylai llywodraeth y DU gryfhau neu gadw rheolau iechyd a diogelwch, ac mae 86% ohonynt o’r farn y dylid cryfhau neu gadw mesurau i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd;

Mae pleidleiswyr yng Nghymru o bob grŵp oedran a phob rhanbarth yn uniaethu mwyaf â datganiadau sy’n cyfleu rheoliadau mewn modd cadarnhaol.  Roedd y datganiad a oedd yn atseinio mwyaf ag ymatebwyr yn cymharu rheoliadau â “system imiwnedd cymdeithas”; a hefyd

Hoffai tri chwarter y pleidleiswyr yng Nghymru weld rheoliadau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn cael eu cynnal neu eu cryfhau.

Cyn etholiadau’r Senedd yn 2021, mae Unchecked UK yn gadw ar yr holl wleidyddion ac ymgeiswyr yng Nghymru i ymrwymo i gynnal a chryfhau safonau ar draws bywyd cyhoeddus.

Dywedodd Emma Rose, Cyfarwyddwr, Unchecked UK:

“Yn Unchecked, rydym o’r farn mai mesurau diogelu cryf ar gyfer pobl a’r amgylchedd, cyrff cyhoeddus ag adnoddau priodol, a gorfodaeth deg o’r rheolau yw sylfeini cymdeithas deg.  Mae ein pôl piniwn yn dangos bod pleidleiswyr yng Nghymru – ar draws y sbectrwm gwleidyddol – yn cytuno â ni.

“Wrth i’r DU ddechrau trafodaethau masnachu â gwledydd ledled y byd, mae perygl y bydd ‘ras i’r gwaelod’ o ran safonau mewn meysydd polisi nad ydynt wedi’u datganoli.  Rydym yn croesawu sicrwydd mynych Llywodraeth Cymru o’i bwriad i gadw safonau domestig yn uchel.  Fodd bynnag, mae mwy y gellir ei wneud mewn cyd-destun datganoledig i ysgogi safonau uchel ar draws nifer o feysydd.

“Cyn etholiadau’r Senedd, rydym yn galw ar bob ymgeisydd a phob plaid wleidyddol i wneud y peth cywir a’r peth poblogaidd, sef ymrwymo nid yn unig i gynnal a chryfhau safonau cyhoeddus, ond hyrwyddo rheolau a mesurau diogelu cryf fel rhan annatod o ddyfodol Cymru fel economi a chymdeithas ffyniannus, lewyrchus a theg.”

%d bloggers like this: