04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Plaid yn cyhuddo Llafur Cymru o “bradychu eu gwerthoedd”

HEDDIW mae Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan a Chyfarwyddwr Ymgyrch Etholiad y Senedd, Liz Saville Roberts AS, wedi beirniadu record Llywodraeth Llafur Cymru mewn grym, gan ddweud bod y diffyg cynnydd cymdeithasol yn ystod Lywodraeth Llafur yn cynrychioli “brad” o werthoedd y blaid Lafur.

Gan ddadlau mai dyma’r amser ar gyfer arweinyddiaeth newydd, syniadau newydd ac egni newydd i Gymru newydd dywedodd Ms Saville Roberts “Nawr yw’r amser ar gyfer dechrau newydd. Gadewch i ni ddewis dyfodol newydd i beidio â glynu wrth y gorffennol a mwy o’r un peth.”

Ychwanegodd Liz Saville Roberts fod “cynlluniau cost-llawn Plaid Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gofal plant am ddim o 24 mis, taliad wythnosol i blant ar gyfer y teuluoedd sydd ei angen fwyaf a thoriad treth gyngor ar gyfer yr aelwydydd tlotaf yn profi mai ni yw’r blaid dros gynnydd cymdeithasol yn yr etholiad hwn.”

Dadleuodd Liz Saville Roberts AS fod amser Llafur yn y swydd yng Nghymru wedi’i nodweddu gan “fwriadau da ond llywodraethu gwael”, gan ychwanegu bod y blaid wedi gosod targedau clodwiw dro ar ôl tro ar faterion fel tlodi plant a newid yn yr hinsawdd dim ond i’w colli.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Ymgyrch Etholiad Senedd Plaid Cymru na fyddai Aneurin Bevan, y gwleidydd Llafur enwocaf o Gymru, yn ôl pob tebyg, yn edrych yn garedig ar safiad Llywodraeth Llafur Cymru heddiw ar faterion cyfiawnder cymdeithasol fel prydau ysgol am ddim a datganoli lles.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Mae dwy flynedd ar hugain o Lafur wrth y llyw yng Nghymru yn nodweddiadol o fwriadau da ond llywodraethu gwael.

“Maent yn gosod targedau clodwiw i ddileu tlodi plant a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, dim ond i’w colli oherwydd eu diffyg uchelgais a’u cymhwysedd economaidd.

“Rhybuddiodd Aneurin Bevan fod y rhai sy’n sefyll yng nghanol y ffordd mewn perygl o gael eu rhedeg drosodd. Byddai Llafur yn gwneud yn dda i wrando ar y geiriau hyn yn hytrach nag eistedd ar y ffens, neu ddweud un peth a gwneud y gwrthwyneb ar faterion allweddol cyfiawnder cymdeithasol fel prydau ysgol am ddim a datganoli lles.

“Mae record Llafur ar bleidleisio yn erbyn prydau ysgol am ddim, pleidleisio yn erbyn ymchwiliad llifogydd a fyddai’n cael ateb hanfodol i’r rheini y mae eu cartrefi wedi’u difetha gan dywydd gwael, ac yn dadlau y dylai pwerau lles aros yn nwylo’r Torïaid yn San Steffan yn siarad cyfrolau  am blaid sydd wedi anghofio sut i ddeddfu ei werthoedd, a bradychu’r union werthoedd hynny yn y broses.

“Nawr yw’r amser ar gyfer dechrau newydd. Gadewch inni ddewis dyfodol newydd i beidio â glynu wrth y gorffennol a mwy o’r un peth.

“Mae cynlluniau fforddiadwy Plaid Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gofal plant am ddim o 24 mis, taliad wythnosol i blant ar gyfer y teuluoedd sydd ei angen fwyaf ac mae toriad treth gyngor ar gyfer yr aelwydydd tlotaf yn profi mai ni yw’r blaid o gynnydd cymdeithasol yn yr etholiad hwn.

“Ni fydd ailethol Llywodraeth Lafur sy’n benderfynol o gadw Cymru ynghlwm wrth undeb anghyfiawn ac anghyfartal byth yn cyflawni’r newidiadau a fydd yn gwneud ein cenedl yn decach i bawb sy’n byw yma.

“Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn golygu Cymru gryfach – yn cael ei hofni a’i pharchu gan San Steffan, heb ei hesgeuluso a’i hanwybyddu. Bydd hyn yn golygu bargen well i Gymru – mwy o fuddsoddiad a mwy o bwerau.

“Yr unig ffordd o sicrhau hynny yw pleidleisio dros Gymru trwy bleidleisio dros Plaid Cymru ar Fai 6ed.”

%d bloggers like this: