04/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Plant Ysgol Y Bryn yn helpu lansio cynllun addysg 10 mlynedd y cyngor

MAE strategaeth addysg 10 mlynedd uchelgeisiol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei lansio’n swyddogol yn Ysgol y Bryn ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae Addysg Sir Gâr 2022-2032 yn nodi dyheadau’r cyngor ar gyfer dysgwyr a staff am y 2022 mlynedd nesaf.

Nod y strategaeth yw adeiladu ar y gwaith da sydd wedi’i wneud eisoes yn Sir Gaerfyrddin er mwyn darparu’r un cyfle a chanlyniadau rhagorol yn gyson i bob dysgwr.

Derbyniodd Ysgol y Bryn fuddsoddiad sylweddol yn ôl yn 2007 o dan Raglen Moderneiddio Addysg y cyngor, gydag adeilad ysgol modern newydd gwerth £3.8 miliwn yn addas ar gyfer dysgu ac addysgu’r 21ain ganrif.

Mae’r ysgol wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf ac fe’i canmolwyd yn ddiweddar gan arolygwyr am ei gweledigaeth a’i gwerthoedd newydd, a’r berthynas gref sydd wedi’i hadeiladu â chymuned yr ysgol.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae cyfraniadau’r holl staff, disgyblion a rhieni yn gwneud Ysgol y Bryn yn lle llwyddiannus a ffyniannus i ddysgu, lle mae llesiant, gwybodaeth a sgiliau pawb yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr; mae disgyblion yn cyflawni lefelau da o gynnydd wrth i’w hathrawon gynllunio a chyflwyno cyfleoedd dysgu sy’n galonogol ac yn ennyn diddordeb.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant:

“Mae Ysgol y Bryn yn lle bywiog, cynhwysol ac ysbrydoledig i ddysgu, ac mae’r disgyblion yn hapus i gymryd rhan yn yr ystod eang o brofiadau dysgu.
Roeddwn wrth fy modd o glywed bod y corff llywodraethu yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr ysgol, gan adnabod y disgyblion, y teuluoedd a’r staff yn dda iawn a sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i symud ymlaen a datblygu.

“Mae’n bwysig hefyd bod disgyblion yn rhannu eu barn ar sut a beth maen nhw’n hoffi ei ddysgu ac o ganlyniad, mae’r mannau dysgu awyr agored yn Ysgol y Bryn wedi cael eu trawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf; mae’r parthau dysgu gwych yn annog dysgu dychmygus yn effeithiol drwy chwarae tra bo’r ‘ffyrdd’ a’r meysydd gweithgareddau yn annog ymarfer corff iach fel rhan o drefn ddyddiol.
Y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn Ysgol y Bryn yw hanfod ein strategaeth 10 mlynedd a’n gweledigaeth ar gyfer addysg yn Sir Gaerfyrddin – gan roi’r profiad addysg gorau posibl i’n dysgwyr a rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cam nesaf ar eu taith.

“Mae dros 27,000 o ddysgwyr wedi’u cofrestru yn ein hysgolion ac mae gan y cyngor rôl hanfodol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i blant, pobl ifanc, teuluoedd a dysgwyr mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion penodol orau.

“Rydym am gefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu potensial o ran dysgu a byddwn yn frwd dros barhau i gynnig safonau uchel o addysg gyfun, mewn amgylcheddau modern sydd yn cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif.”

%d bloggers like this: