12/05/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pum Aelod Newydd i Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin

MAE Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi bod pum aelod newydd wedi cael eu penodi i ymuno â’n Bwrdd Cyfarwyddwyr. Yn dilyn proses agored gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd i wneud cais i fod ar y bwrdd. Dyma ychydig o fanylion am yr ymgeiswyr llwyddiannus. (Gweler ‘Nodiadau Ychwanegol’ isod am eu proffiliau llawn). Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eu cyfraniad dros y pum mlynedd nesaf.

Elin Maher – Daw Elin o bentref Clydach, ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghasnewydd. Mae hi wedi gweithio mewn sawl sefydliad ym myd addysg Gymraeg. Mae hi nawr ar fin gorffen gradd M.A mewn Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd tra’n gweithio’n llawrydd fel ymgynghorydd iaith ac addysg.

Gwenno George – Trysorydd newydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Daw Gwenno yn wreiddiol o Gricieth. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd fe gychwynnodd ei gyrfa broffesiynol yn y byd cyllid fel Swyddog Cyllid Plaid Cymru cyn cymhwyso yn ddiweddarach fel cyfrifydd. Bellach mae’n Brif Swyddog Cyllid (CFO) gyda chwmni cyfreithiol cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Savanna Jones – Daw Savanna o Gaerdydd ac mae’n parhau i fyw yno ar hyn o bryd wrth astudio gradd meistr ym Mhrifysgol Caerfaddon. Mae hi hefyd yn gweithio fel Rheolwr Ehangu Mynediad a Chynhwysiant mewn Addysg Uwch, ac yn flaenorol wedi gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ei rôl gyda’r Cyngor Cyllido. Mae gan Savanna hefyd brofiad gwirfoddoli i’r Groes Goch.

Colin Nosworthy – Mae Colin yn hanu o Landrindod yn wreiddiol, ond bellach yn byw yn Aberystwyth gan weithio fel Swyddog Cyfathrebu i’r Brifysgol yno. Cyn hynny, bu’n gweithio i Gymdeithas yr Iaith ac yn Senedd Cymru. Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg o Brifysgol Rhydychen, ac mae ganddo gymwysterau cyfreithiol o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn ogystal.

 

Huw Marshall – Mae gan Huw Marshall bron i ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ar sawl lefel o fewn y diwydiannau creadigol, gan arbenigo ar ddarpariaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc, ac ef yw sylfaenydd ‘Yr Awr Gymraeg’ – cyfrif trydar sy’n hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 8.00 – 9.00 bob nos Fercher.

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin:

“Mae cyfraniad gwirfoddolwyr yn un o gryfderau mawr Mudiad Meithrin ac mae hynny’n wir ar y lefel genedlaethol yn ogystal â bod yn gwbl greiddiol i’r ddarpariaeth ar lawr gwlad.Rydym yn ffodus fel sefydliad ein bod yn medru denu unigolion sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u harbenigedd.Mae’n bleser felly i groesawu Elin, Gwenno, Savanna, Colin a Huw i wasanaethu fel aelodau o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac rwy’n siŵr y gwnawn ni elwa’n fawr o dalentau amrywiol.”

%d bloggers like this: