03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhagor o Gydlynwyr Ardal Leol yn cael eu penodi wrth i’r cynllun ehangu

MAE chwe Chydlynydd Ardal Leol ychwanegol ar fin dechrau gweithio yn Abertawe wrth i’r cynllun gael ei ehangu i fwy o gymunedau yn y ddinas.

Bydd y recriwtiaid newydd yn dechrau yn eu swyddi ym mis Mawrth fel bod mwy o ardaloedd yn cael eu cynnwys gan y rwydwaith.

Mae Cydlynwyr Ardal Leol wedi bod yn rhan flaenllaw o ymateb Cyngor Abertawe i bandemig Coronafeirws drwy gefnogi pobl y mae’r feirws a’r cyfnodau clo wedi effeithio arnynt yn ogystal â hwyluso cymorth cymydog i gymydog pan gynigiodd pobl eu cymorth.

Yn ystod ton gyntaf y feirws, adleolwyd staff i gefnogi’r tîm presennol o 16, ac yn dilyn y llwyddiant hwn, mae’r gwasanaeth yn ariannu 6 swydd ychwanegol.

Bydd Dominic Nutt yn cynrychioli ardal Pen-lan; Donna Kendall fydd yn cynrychioli’r Cocyd, Waunarlwydd a Thregŵyr; Sarah James fydd yn cynrychioli Dynfant a Chilâ; Rachael Cole fydd yn cynrychioli Gorseinon a Phenllergaer; Ian Miller fydd yn cynrychioli Llansamlet a Bôn-y-maen ac Amy Beuse Evans fydd yn cynrychioli Dyfaty a Mount Pleasant.

Meddai Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol, “Croesawom y Cydlynwyr Ardal Leol i Abertawe am y tro cyntaf chwe blynedd yn ôl pan gynhaliom gynllun peilot mewn tair ardal yn y ddinas.

“Eu cylch gwaith yw gweithio gyda chymunedau ac unigolion i gefnogi’r rheini a allai fod yn ddiamddiffyn neu’n ynysig, er enghraifft, fel nad yw eu sefyllfa’n gwaethygu i bwynt lle mae angen ymyriad y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol.

“Oherwydd y llwyddiant cychwynnol roeddem eisoes wedi ehangu’r gwasanaeth cyn i’r pandemig ddechrau ac roedd hyn yn golygu ein bod ar y blaen o ran sicrhau bod cefnogaeth ar waith i’r rheini yr oedd arnynt ei hangen

“Ein huchelgais yw cael Cydlynwyr Ardal Leol yn cynrychioli pob ardal yn Abertawe, ac mae’r penodiadau diweddaraf yn golygu ein bod ni gam yn nes at gyflawni hynny.”

Yn ystod y pandemig mae’r CALl wedi bod yn hanfodol wrth sefydlu neu gryfhau rhwydweithiau cymunedol.

Gwirfoddolodd mwy na 2,400 o bobl i gynnig cymorth cymydog i gymydog ac er bod llawer ohonynt wedi dychwelyd i’r gwaith pan gafodd y cyfyngiadau symud cyntaf eu llacio, mae llawer o’r rhwydweithiau’n parhau heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth am ba Gydlynydd Ardal Leol sy’n cynrychioli’ch ardal chi, ewch i:https://www.abertawe.gov.uk/cydlynuardalleol

%d bloggers like this: