04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhowch drefn ar eich gyrfa’r mis Mawrth yma

MAE Anna-Jayne Davies a Vilash Sanghera wedi cwblhau Rhaglen Datblygu Gyrfa rhad ac am ddim Chwarae Teg, sydd, yn eu barn nhw, wedi rhoi hwb i benodau newydd yn eu bywydau – ac yn awr maent yn rhannu eu straeon er mwyn annog menywod eraill i wneud yr un peth.

Mae Anna-Jayne Davies sy’n gweithio i Leekes wedi mynd o nerth i nerth  – cafodd ddyrchafiad ar ddiwedd y cwrs ac mae hi am i fenywod eraill elwa hefyd.

 

Meddai Anna-Jayne:

“Pan glywais i am y rhaglen am y tro cyntaf, roeddwn i’n meddwl bod fy lle gwaith wedi anfon e-bost ataf mewn camgymeriad, gan nad oeddwn hyd yn oed yn oruchwyliwr. Doeddwn i ddim wedi ystyried y byddwn i’n gallu symud ymlaen, er fy mod eisiau gwneud hynny.

“Rydw i mor falch o fod wedi mentro gan fod yr holl brofiad wedi bod yn wych. Roedd cymaint o gefnogaeth gan Chwarae Teg, fel bod unrhyw beth y buaswn yn ei ystyried her yn hawdd. Helpodd y rhaglen fi i sylweddoli bod gen i’r gallu i wneud rôl uwch a chredu ynof fi’n hun yn fwy. Yn wir, ers cwblhau’r rhaglen fe wnes i gais am swydd goruchwyliwr ond cynigiwyd swydd Rheolwr Adran i mi.

“Byddwn i’n dweud wrth fenywod eraill ‘Ewch amdani’! Does gennych chi ddim byd i’w golli ond cymaint i’w ennill’. Roeddwn i’n meddwl y byddai hwn yn gwrs y buaswn i’n ei wneud fel ymarfer ticio blychau i’w roi ar fy CV yn unig. Ond wir, mae wedi newid fy mywyd.”

Ymunodd Vilash Sanghera o General Dynamics UK â’r rhaglen yn bennaf er mwyn meithrin ei hunanhyder a’i sgiliau cyfathrebu ond mae’n dweud ei bod wedi rhoi llawer mwy na hynny iddi.

Meddai Vilash:

“Yn ogystal â’n helpu i gredu ynof fi fy huann a fy mhotensial, rhoddodd y rhaglen sgiliau newydd i mi a chymhwyster cydnabyddedig. Mae’n eich galluogi chi ddarganfod llawer amdanoch chi eich hunan, fel cryfderau a galluoedd nad oeddech efallai wedi sylweddoli eu bod ganddoch chi o’r blaen.

“Roedd yn gyfle i mi gwrdd â phobl o’r un anian â mi a roddodd ymdeimlad o berthyn a grymuso i mi. Gyda meddylfryd gadarnhaol, hyder a phenderfyniad nid oes unrhyw reswm pam na all fenywod ddatblygu’n arweinwyr cryf. Os gall fwy o fenywod fanteisio ar y cyfle yma, gallwn wneud Cymru’n le tecach i fyw a gweithio ynddo, gyda chynrychiolaeth gref gan fenywod.”

Meddai Rina Evans, Uwch Bartner Cyflenwi, Chwarae Teg:

“Rydym yn hynod falch o’r pethau mae’r holl fenywod sydd wedi cymryd rhan yn ein rhaglen dros y blynyddoedd wedi’u cyflawni. Nid yn unig maent wedi ennill sgiliau arwain allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr ond maent hefyd wedi datblygu’r hyder a’r cymhelliant i gyflawni a ffynnu yn y gweithle. Roeddem o’r farn mai’r ffordd orau i annog eraill i gofrestru oedd clywed gan gyfranogwyr y gorffennol, ac mae Anna-Jayne a Vilash yn wirioneddol arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni ac wedi dod yn fodelau rôl i lawer.”

“Mae miloedd o fenywod yng Nghymru wedi cymryd rhan yn ein rhaglen ac wedi sicrhau codiadau cyflog gwerth dros £4.4miliwn, felly mae’n werth cymryd golwg arno.”

Fel prif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, mae Chwarae Teg yn gweithio i wella sefyllfa menywod yn economi Cymru. Mae ei Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg2 yn rhan allweddol o’r gwaith hwn ac wedi ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru

Yn cael ei rhedeg ar-lein drwy amgylchedd rhithwir byw ar hyn o bryd, oherwydd Covid-19, fe’i cynlluniwyd i fod yn rhyngweithiol ac yn ddiddorol. Drwy gydol yr amser, cefnogir cyfranogwyr gan y tîm ymroddedig yn Chwarae Teg sy’n darparu hyfforddiant a mentora arbenigol, ac mae’r hyfforddiant ei hun yn golygu y gall cyfranogwyr ennill cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 2 achrededig.

I gael rhagor o fanylion, gwybodaeth am gymhwysedd ac i wneud cais, dylai fenywod fynd i: https://chwaraeteg.com/prosiectau/cenedl-hyblyg2/

%d bloggers like this: