04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Sector lletygarwch yng Nghymru dechrau ail agor Gorffennaf 13

MAE’R Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn amlinellu’r cynllun ar gyfer ailagor yn raddol farrau, caffis, tafarnau a bwytai yn y gynhadledd ddyddiol i’r wasg heddiw (Gorffennaf 2).

Daw’r penderfyniad hwn yn sgil adolygiad cyflym o’r sector lletygarwch yng Nghymru a ystyriodd sut y gallai’r diwydiant ailagor yn ddiogel.

Fel rhan o’r cam cyntaf bydd mannau yn yr awyr agored sy’n eiddo i fusnesau ac sydd eisoes â thrwydded yn ailagor – ar yr amod y bydd y sefyllfa’n parhau’n ffafriol ac yn amodol ar ganlyniad adolygiad yr wythnos nesaf o’r rheoliadau.

Caiff posibilrwydd ailagor mannau dan do ei ystyried yn nes ymlaen, gan ddibynnu ar lwyddiant y broses o ailagor y mannau yn yr awyr agored; y sefyllfa o ran y coronafeirws yng Nghymru a’r mesurau eraill y mae busnesau wedi’u cyflwyno er mwyn lleihau’r perygl y gallai’r feirws ledu. Gallai’r mesurau hyn gynnwys archebu ymlaen llaw, gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig a hyd yn oed y defnydd o apiau.

%d bloggers like this: