04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Serch 350 o wrthwynebiadau bydd Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr yn cau Awst 2022

BYDD ysgol gynradd fach iawn yn ne Powys yn cau nes ymlaen eleni ar ôl derbyn sêl bendith y Cabinet, cyhoeddodd y cyngor sir.

Y llynedd, rhoddodd y Cabinet ganiatâd i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid hwn yn ffurfiol, a chafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.  Yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol, derbyniwyd bron i 350 o wrthwynebiadau.

Heddiw (Dydd Mawrth 8 Mawrth) bu’r Cabinet yn trafod yr adroddiad ar y gwrthwynebiadau gan gymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr o 31 Awst 2022, gyda’r disgyblion i fynychu ysgol arall agosaf.

Mae Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn amlinellu pryderon fod nifer fawr o ysgolion bach yn y sir, ac i’r rheiny, mae’r ganran fesul disgybl o’r gyllideb yn uwch na chyfartaledd Powys i ysgolion cynradd.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Gyda’r Cabinet yn cymeradwyo’r argymhelliad i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru LLanbedr, bydd disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion eraill yn yr ardal.  Byddai hynny’n golygu y bydd yr addysg y byddan nhw’n ei dderbyn yn fwy tebyg i’r model safonol o ddarparu addysg yn yr ardal gan helpu i sicrhau mynediad teg i’r system addysg ym Mhowys

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo:

“Ar ôl trafod y gwrthwynebiadau’n ofalus, mae’r Cabinet wedi cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr.

“Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid profiadau a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn wireddu hyn trwy gyflwyno ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.

“Mae gennym strategaeth uchelgeisiol a chyffrous a chredwn y bydd yn rhoi’r dechrau gorau posibl a haeddiannol i’n dysgwyr.  Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau rhoi’r strategaeth ar waith, byddwn yn wynebu rhai penderfyniadau anodd wrth i ni geisio mynd i’r afael â rhai heriau sy’n wynebu addysg ym Mhowys sy’n cynnwys canran uchel o ysgolion bach yn y sir, nifer y disgyblion yn syrthio a nifer fawr o lefydd gwag.

“Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn.  Nid yn unig y mae wedi bod yn destun her sylweddol gan uwch-arweinwyr y cyngor ar bob cam o’r ffordd, ond fe’i ddatblygwyd er budd y dysgwyr sydd wedi bod ar flaen ein trafodaethau a’n penderfyniadau.”

%d bloggers like this: