BYDD Cyngor Dinas Casnewydd yn dechrau cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya newydd ar draws nifer o strydoedd preswyl mewn chwe ward yn y ddinas.
Mae’r mesurau’n cael eu cyflwyno i helpu i wella diogelwch ar strydoedd preswyl, gyda thystiolaeth yn dangos bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau, a hefyd yn lleihau difrifoldeb unrhyw wrthdrawiadau ac anafiadau a allai ddigwydd.
Bydd y mesurau hefyd yn helpu i sicrhau diogelwch ar strydoedd preswyl tra bod rheoliadau ymbellhau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws yn parhau mewn grym.
Bydd y cyfyngiadau cyflymder newydd yn cael eu cyflwyno i strydoedd ar draws y chwe ward ganlynol:
Allt-yr-ynn, Betws, Llyswyry, Malpas, Ringland a Victoria.
Bydd y mesurau, a fydd yn cael eu cyflwyno fesul cam dros yr wythnosau nesaf wrth i’n timau weithio i osod yr arwyddion ffyrdd angenrheidiol, yn cael eu cyflwyno dros dro i ddechrau, cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau’n genedlaethol i wneud 20mya yn gyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl.
Y gobaith yw y bydd y cyfyngiadau cyflymder newydd, yn ogystal â chynyddu diogelwch, yn annog mwy o bobl i deimlo’n hyderus yn dewis opsiynau teithio cynaliadwy fel cerdded a beicio, y mae’r cyngor hefyd yn eu hyrwyddo drwy ei gynlluniau teithio llesol.
Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd y cyngor:
“o lai o wrthdrawiadau i fwy o gyfleoedd ar gyfer cerdded a beicio, mae’r dystiolaeth o fanteision gostwng cyfyngiadau cyflymder i 20mya mewn strydoedd preswyl yn glir.
“Rwy’n falch felly y bydd y cyfyngiadau newydd rydym yn eu cyflwyno yn gwella diogelwch mewn dros 300 o strydoedd ar draws y ddinas ac y bydd miloedd o drigolion yn elwa o welliannau i’w cymunedau ar ffurf strydoedd arafach a thawelach.”
Mae gwaith i ddechrau dod â’r cyfyngiadau newydd i rym wedi dechrau ac anogir preswylwyr i gadw llygad allan am yr arwyddion cyfyngiad cyflymder newydd sy’n cael eu gosod yn eu hardal. Bydd y cyfyngiadau cyflymder presennol yn parhau ym mhob ward hyd nes y bydd y broses Gorchymyn Rheoli Traffig yn cael ei chwblhau yfory a bod yr holl arwyddion newydd wedi’u gosod. Bydd y cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr o ran pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m