Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y byddai ardoll yn sicrhau y bydd modd mwynhau cyrchfannau yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i Gymru, gyda gwariant cysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd dros £5 biliwn y flwyddyn yn 2019. Byddai treth dwristiaeth yn creu incwm i awdurdodau lleol, gan eu galluogi i reoli gwasanaethau a seilwaith sy’n sicrhau twristiaeth lwyddiannus.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ill dau’n cynnwys ymrwymiadau i gyflwyno ardollau.
Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion deddfwriaethol drafft ar gyfer ardoll ymwelwyr yn cael ei lansio yn yr hydref, gan gynnig cyfle i ystyried ystod eang o safbwyntiau.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Mae ardollau ymwelwyr yn rhywbeth cyffredin mewn cyrchfannau twristaidd yn rhyngwladol. Maen nhw’n gyfle i ymwelwyr wneud buddsoddiad mewn seilwaith a gwasanaethau lleol, sydd yn eu tro yn sicrhau twristiaeth lwyddiannus. Heb ardoll o’r fath, mae baich gormodol ar gymunedau lleol i ariannu gwasanaethau a darpariaethau lleol, y mae twristiaid yn dibynnu arnyn nhw. O gadw traethau a phalmentydd yn lân, i gynnal parciau, toiledau a llwybrau lleol – dylai’r seilwaith hanfodol sy’n cynnal twristiaeth gael ei gefnogi gan bawb sy’n dibynnu arno.
“Byddai cyflwyno a gweithredu ardoll o’r fath yn sicrhau y bydd modd mwynhau cyrchfannau yng Nghymru am genedlaethau i ddod. Byddai hefyd yn annog twristiaeth fwy cynaliadwy.
“Byddem yn sicrhau bod yr ardoll yn gymesur, a byddai pwerau i godi’r ardoll yn nwylo awdurdodau lleol. Byddai hyn yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau yn lleol, yn unol ag anghenion ein cymunedau. Bydd yr ardoll yn berthnasol i’r rhai sy’n talu i aros dros nos mewn ardal awdurdod lleol. Bydd cyfleoedd ar gyfer cyfraniadau ehangach tuag at effaith costau mathau eraill o weithgareddau ymwelwyr ar seilwaith lleol yn cael eu cynnig fel rhan o’r ymgynghoriad ar yr ardoll.”
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell AS Plaid Cymru:
“Bydd rhoi’r pŵer i bobl leol gyflwyno ardoll dwristiaeth yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y wlad sy’n denu niferoedd sylweddol o dwristiaid. Bydd yn rhoi mwy o bŵer ac adnoddau i bobl leol a’u cynrychiolwyr fuddsoddi yn eu hardaloedd a sicrhau ffyniant lleol.
“Bydd modd i gynghorau ofyn i dwristiaid wneud cyfraniad bach at yr ardaloedd maent yn ymweld â nhw a’r gwasanaethau maent yn eu defnyddio.
“Bydd y mesur hwn yn helpu i gefnogi sector twristiaeth sy’n gynaliadwy, yn hytrach nag yn niweidiol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau’r budd mwyaf i gymunedau a’r economi leol.
“Mae ardollau o’r fath – a elwir yn drethi twristiaeth yn aml – yn gyffredin mewn gwledydd ar draws Ewrop a thu hwnt. Hanfod hyn yw parch rhwng ein cymunedau a’r ymwelwyr maent yn eu croesawu. Dyma bolisi newydd sy’n ffrwyth ysbryd cydweithredol Cymreig.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m