04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Y newyddion diweddaraf ar Ganolfan Cymuned Treorci

MAE CyngorRhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi’r newyddion diweddaraf am y gwaith sy’n mynd rhagddo i gyflwyno Canolfan Ddiwylliannol yn y Gymuned yn ardal Treorci. Dwed y datganiad:

Mae gwelliannau i wedd allanol adeilad Llyfrgell Treorci yn symud yn eu blaenau’n dda.

Yn unol â dull y Cyngor o ddatblygu Canolfannau sy’n cynnwys ac yn cydnabod nodweddion unigryw lleoliadau allweddol, mae datblygiad y Ganolfan yn Nhreorci yn gwneud defnydd o’r ddau eiddo diwylliannol sydd wrth ochr ei gilydd, sef Theatr y Parc a’r Dâr a Llyfrgell Treorci.

Yn rhan o’r model Canolfannau Cymuned, mae ystod o wasanaethau gwahanol sy’n seiliedig ar ddinasyddion yn cael eu cynnig o leoliad canolog. Mae hyn yn caniatáu i’r Cyngor, a’i bartneriaid, gynnig rhaglen eang o weithgareddau a gwasanaethau cymorth i ddiwallu anghenion grwpiau ac unigolion yn y gymuned leol.

Mae Canolfan Pennar yn Aberpennar a’r Hwb yn ardal Glynrhedynog yn ddwy enghraifft o gyflwyno’r model yma’n llwyddiannus yn Rhondda Cynon Taf. Mae cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n mynd i mewn i’r ddau gyfleuster yma ac yn nifer y bobl sydd wedi ymaelodi â’r llyfrgell cyn pandemig COVID-19.  Treorci fydd pedwerydd safle Canolfan Gymuned y Cyngor, a hynny’n dilyn y ddau gyfleuster a nodwyd uchod a Phlaza Porth.

Trwy fuddsoddiad cyfalaf y Cyngor, mae ystod o welliannau allanol wedi cychwyn yn adeilad Llyfrgell Treorci.  Mae gwaith gwella blaen yr adeilad wrthi’n cael ei gynnal, gyda mynedfa newydd wrth ymyl y fynedfa bresennol i bobl anabl. Bydd gan y fynedfa yma gaeadau rholio cadarn.

Mae gwaith pellach i atgyweirio’r rendrad presennol ac ailaddurno yn cael ei gynnal, gan newid lliw fframiau’r ffenestri a’r drysau, yn ogystal â gosod cladin allanol ar baneli concrit presennol lefel uchaf yr adeilad.  Mae gwaith tirweddu meddal yn cael ei gynnal i wella amwynder gweledol yr adeilad, ynghyd â gwaith adnewyddu’r pafin allanol ac ailosod y ffensys yn y maes parcio y tu ôl i’r adeilad ar y cyd ag adran Priffyrdd y Cyngor er mwyn cydfynd â’r cynlluniau priffyrdd diwygiedig.

%d bloggers like this: