04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ymateb Mick Antoniw i bendyrfyniad y Goruchaf Lys

YR wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Goruchaf Lys cais Llywodraeth  Cymru am ganiatâd i apelio yn erbyn Gorchymyn y Llys Apêl  am adolygiad barnwrol o’r Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 gan ddweud yr odd yn gynamserol.

Mewn datganiad ymatebodd Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n glir yn ei gwrthwynebiad i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Mae hwn yn ymosodiad na ellir ei gyfiawnhau ar ddatganoli ac ar hawl y Senedd i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi eu datganoli i Gymru.”

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Rydym wedi ein siomi gan ddyfarniad y Llys. Fodd bynnag, wrth wneud yr hyn sydd, yn ei hanfod, ar y cam hwn, yn benderfyniad gweithdrefnol, nid yw’r Llys wedi gwrthod ein dadleuon o sylwedd ac mae wedi gadael y drws yn agored i’r mater hwn gael ei ystyried ar adeg briodol yn y dyfodol.

Byddwn yn awr yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen orau â’n her i’r Ddeddf, er mwyn diogelu a mynnu hawl ddemocrataidd y sefydliad hwn i ddeddfu ar ran pobl Cymru.”

%d bloggers like this: