MAE cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 ac i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn barod i fod yn destun ymgynghoriad.
Mae cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035 ac i helpu pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt wedi cael eu cyhoeddi heddiw yn barod i fod yn destun ymgynghoriad.

Dros yr 17 mlynedd diwethaf mae ‘Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref’, ac yn fwy ddiweddar y ‘Rhaglen Cartrefi Clyd’ wedi darparu cyngor ar gyfer llawer o gartrefi ledled Cymru ac wedi gwneud gwelliannau i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.

Yn ôl yr amcangyfrifon ers 2008 mae’r lefelau o dlodi tanwydd wedi gostwng dros 50%, gan helpu tua 177,000 o aelwydydd i ddianc o dlodi tanwydd.

Mae’r ymgynghoriad, sy’n parhau tan 31 Rhagfyr, yn amlinellu cynlluniau i leihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035.

Mae’r cynllun yn cynnwys deg cam gweithredu i’w rhoi ar waith ar unwaith a fydd yn cael yr effaith fwyaf rhwng nawr a 2023. Disgwylir i’r cynllun, yn dibynnu ar yr ymgynghoriad cyhoeddus, gael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror 2021 fan bellaf. Bydd un o’r cynigion allweddol yn gweld buddsoddiadau i wneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni’n parhau drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd.

Ers 2011 mae buddsoddiadau gwerth £366 miliwn drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd (hyd at Fawrth 2020) wedi gwneud dros 61,400 o gartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, ac wedi rhoi cyngor a chymorth i dros 144,800 o bobl. Mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd hefyd yn cyfrannu at y nod ehangach o ddatgarboneiddio tai er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau sero-net erbyn 2050.

Mae cynlluniau eraill yn y cynllun sydd i’w gweithredu ar unwaith yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwygiadau i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfercymorth, gan gynnwys amodau iechyd a phobl ar incwm is, a lefel y cymorth sydd ar gael, yn enwedig ar gyfer cymunedau gwledig;
  • Ymgynghori ar Wasanaethau Cymorth a Chyngor ar Ynni Domestigi helpu pobl i arbed arian a lleihau faint o ynni maent yn ei ddefnyddio;
  • Paratoi cynllun i wella cadernid yn ystod y gaeafar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd talu am yr ynni domestig sydd ei angen arnynt, ac sydd mewn perygl o iechyd gwael y gellir ei osgoi neu o farw yn gynnar oherwydd eu bod yn byw mewn cartref oer;
  • Cyhoeddi data ar ynni domestig ar gyfer Cymrubob blwyddyn i helpu i ganolbwyntio ar y cymunedau sydd yn y perygl mwyaf o fyw mewn tlodi tanwydd;
  • Cyhoeddi adolygiad o berfformiad tuag at gyflawni amcanion 2035, a chyhoeddi amcangyfrifon o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru.

Mae’r cynllun yn cynnwys targedau fel y gellir mesur yr amcan o sicrhau nad yw pobl yng Nghymru, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2035. Byddwn ni wedi cyflawni hyn os bodlonir y meini prawf isod:@

  • Nid amcangyfrifir bod unrhyw aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus;
  • Nid amcangyfrifir bod mwy na 5% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw un adeg; a
  • Bydd nifer yr aelwydydd sydd ‘mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd’ yn llai na hanner yr amcangyfrif ar gyfer 2018.

Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Er bod yr amcangyfrifon yn dangos bod lefel y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd yn llai na hanner y lefel yn 2008, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith bod 155,000 o aelwydydd yn parhau i’w chael yn anodd fforddio byw mewn amgylchedd diogel a chyfforddus.!

“Mae pandemig COVID-19 yn golygu bod ein cartrefi bellach yn fwy canolog i’n bywydau pob dydd, ac rydyn ni’n defnyddio rhagor o ynni. Mae’n debyg y bydd hyn yn parhau, gyda’r posibilrwydd o filiau uwch wrth i’r hydref a’r gaeaf nesáu.

“Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru wynebu’r her hon ar ei phen ei hun. Mae gan Lywodraeth y DU lawer o’r pwerau allweddol sydd eu hangen i wneud newidiadau, a byddwn ni’n parhau i ddefnyddio ein dylanwad i lywio ei gweithgareddau a’i pholisïau.

“Bydd ein cynllun newydd yn gwneud cyfraniad allweddol at ein hymdrechion i fynd i’r afael â phob math o dlodi, yn enwedig ar gyfer plant, pobl ifanc, pobl hŷn a phobl anabl. Bydd parhau i fuddsoddi yn y cymorth rydyn ni’n ei roi i bobl sy’n byw ar incwm is i wneud eu cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni yn cyfrannu at ein hymdrechion i ddatgarboneiddio tai Cymru, fel rhan o’n hymdrechon i ymateb i’r heriau sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.

“Hoffwn i annog pawb sy’n awyddus i’n helpu ni i wneud mwy i fynd i’r afael â thlodi tanwydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhannu eich safbwyntiau â ni.”

For More Hyperlocal News Stories Click on the Banner
, ,
Related Posts
Latest Posts from Wales News Online