03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysbryd cymunedol yn twymo calonnau ym Merthyr Tudful

MAE Cancer Aid Merthyr Tudful yn un o 48 grŵp cymunedol ledled Cymru
sy’n dathlu derbyn cyfran o fwy na £680,000 gan Gronfa Gymunedol y
Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.

Derbyniodd Cancer Aid Merthyr Tudful £10,000 i ail-agor eu canolfan
galw-i-mewn dyddiol, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i’r
rhai hynny y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan ganser. Mae’r
grŵp hefyd yn cynllunio i helpu cadw cleifion a gofalwyr yn gynnes y
gaeaf hwn wrth wynebu’r argyfwng costau byw.

Dywedodd Tracey Burke, Prif Reolwr Cancer Aid Merthyr Tudful:

“Roeddem wrth ein boddau i dderbyn £10,000 gan Gronfa Gymunedol y
Loteri Genedlaethol ar gyfer ein prosiect newydd “Lles a chynhesrwydd
yn ystod y Gaeaf”. Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ail-agor ein
canolfan galw-i-mewn yn ddyddiol, lle gall pobl ddod i mewn i gael
cefnogaeth heb apwyntiad a sgwrsio gyda chyfaill gwirfoddol dros ddiod
twym mewn amgylchedd diogel a chynnes. Gallan nhw hefyd ddod i gyfarfod
ag eraill, ymuno â grŵp cymorth neu gyrchu cynnyrch fel pecynnau
hylendid, pecynnau mislif neu becynnau cynhesrwydd. Mae’r argyfwng
costau byw yn bryderus i bawb, a bydd y prosiect hwn yn ein helpu i
gefnogi ein cymuned, diolch i’r Loteri Genedlaethol a’i holl
gefnogwyr.”

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu grantiau o gyn
lleied â £300 hyd at £500,000 ac mae ganddi rwydwaith o Swyddogion
Ariannu ledled Cymru i gefnogi grwpiau fel Cancer Aid Merthyr Tudful i
gyrchu cyllid y Loteri Genedlaethol. Mae’r Gronfa’n cynnig llinell
gyngor i gefnogi grwpiau gyda sgwrs gychwynnol, sydd ar agor pum diwrnod
yr wythnos ar 0300 123 0735.

Dymunodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri
Genedlaethol, longyfarchiadau i’r prosiectau, gan ddweud:

“Mae’n wych gweld cymaint y gellir ei gyflawni gyda grant o £10,000.
Mae mwy na wyth mewn deg o’n grantiau o dan £10,000 – gan fynd at
grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau fel Cancer Aid Merthyr Tudful, sy’n
ymateb i anghenion eu cymunedau yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Mae
grantiau fel hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU.”

Mae 48 o grantiau gwerth cyfanswm o £684,085 wedi cael eu dyfarnu i
gymunedau ledled Cymru i helpu pobl leol a’u teuluoedd – I ddarllen y
rhestr lawn gweler y ddogfen sydd wedi’w atodi.

%d bloggers like this: