04/15/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol feithrin Gymraeg newydd yn agor yn Gurnos

MAE ysgol newydd wedi agor ar Ystâd y Gurnos, Merthyr Tudful o’r enw ‘Safle’r Gurnos’ ’ sy’n ddarpariaeth ychwanegol o Ysgol Santes Tudful ond a fydd yn tyfu yn drydedd ysgol gyfrwng Cymraeg i’r Fwrdeistref Sirol.

Mae’r Cyngor yn dweud fod hwn yn gam enfawr ymlaen i ymestyn darpariaeth addysg Gymraeg ym Merthyr Tudful ac ymestyn y ddarpariaeth yng ngogledd y Sir a datblygu amgylchedd Gymraeg. Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio yn galed ers blynyddoedd wrth sicrhau bod darpariaeth Cymraeg a bod cyfathrebu Cymraeg yn weledol ar draws y Fwrdeistref, ac mae hwn yn gam arall wrth gyflawni hyn.

Dwedodd Pennaeth Santes Tudful, Mr Gwyndaf Jones:

“Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig iawn ar gyfer Addysg Cyfrwng Cymraeg ym Merthyr Tudful. Rydym yn ddiolchgar i’r Awdurdod Lleol am eu cefnogaeth wrth ymateb i’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ym Merthyr. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o deuluoedd i’r safle ar y Gurnos yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Mae heddiw yn gam mawr ymlaen wrth wireddu dyhead Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Meddai’r Cyfarwyddwr Addysg Sue Walker:

“Mae agor y drydedd ysgol gyfrwng Gymraeg ym Merthyr Tudful yn achlysur nodedig ac yn dod wrth i’r ysgol gyntaf, Ysgol Santes Tudful ddathlu 50 mlynedd o fodolaeth. Mae twf addysg Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac rydym yn falch gweld y ddarpariaeth hon ar y map.”

Ychwanegodd y Cyng. Michelle Symmonds pencampwr swyddogol y Gymraeg ar gyfer y Cyngor, sydd hefyd wedi cefnogi ysgolion Cymraeg yn y Fwrdeistref ac a oedd yn gyffrous am yr achlysur:

‘’Mae’r ysgol Gyfrwng Gymraeg newydd hon yn destament i ddyhead yr Awdurdod Lleol i ymestyn ei darpariaeth Addysg Gymraeg a darparu’r cyfleusterau gorau posib ar gyfer dysgwyr yr ardal. Bydd yn fantais fawr i’r plant a’r gymuned mae’n gwasanaethu.’’

Dywedodd y Cyng Michelle Jones a oedd hefyd yn y digwyddiad:

“Braf oedd cael mynychu agoriad Campws Gurnos y bore yma. Mae gweld hyn yn digwydd yn gam arall ymlaen yn ein cefnogaeth ymroddedig i addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref, ac yn ffactor bwysig wrth feithrin plant â rhoi profiad Cymraeg o’r radd flaenaf. Mae gan y Cyngor weledigaeth glir i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a dyma un ffordd y mae Merthyr Tudful yn cyfrannu at gyflawni hynny.Yn y pen draw, yr hyn yr hoffwn ei weld yn y dyfodol yw ysgol iaith Cymraeg uwchraf yn cael ei sefydlu yn y Fwrdeistref”

%d bloggers like this: