04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ysgol Gynradd Ecogyfeillgar Cefn Cribwr ennill gwobr platinwm

MAE staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr yn dathlu ar ôl derbyn y wobr Baner Werdd Platinwm Ysgolion Eco.

Mae ysgolion yn ennill statws platinwm unwaith y dyfarnir Baner Werdd iddynt bedair gwaith – gan ddangos ymrwymiad hirdymor i addysg amgylcheddol, cynnwys myfyrwyr a chynaliadwyedd.

Ers 2012, mae’r ysgol wedi bod yn gweithio i leihau’r defnydd o ynni a rhoi hwb i’w trefniadau eco. Mae hyn wedi cynnwys casglu sbwriel yn y gymuned leol fel rhan o’r ymgyrch Ei Charu a’i Chadw’n Lân! ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cadwch Gymru’n Daclus, SeaQuest a’r cyngor cymuned.

Mae coed ffrwythau a blodau gwyllt wedi’u plannu o amgylch y tir i annog gwenyn ac mae man parcio beic/sgwter i annog staff a phobl ifanc i gerdded neu feicio i’r ysgol ac adref.

Dywedodd y Pennaeth, Stephen Howells:

“Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o waith caled ein Cyngor Eco, disgyblion a staff wrth ofalu am yr amgylchedd yn ein hysgol ac o’i hamgylch.

“Mae’r Cyngor Eco wedi cyflwyno nifer o fesurau gan gynnwys poteli dŵr y gellir eu hail-ddefnyddio i leihau gwastraff plastig, yn ogystal ag ailgylchu papur, plastig a batris, a diffodd goleuadau mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Dŵr Cymru i edrych ar ffyrdd y gallwn leihau’r defnydd o ddŵr, a pharhau i fonitro ein defnydd o ynni.

“Da iawn i’r pwyllgor am gyflwyno eu gwaith i Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o’r broses achredu – rydym yn falch iawn o chwifio’r faner blatinwm.”

Meddai’r Cyngorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:

Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Cefn Cribwr ar y wobr werdd fawreddog hon, canlyniad blynyddoedd lawer o waith caled gan y Pwyllgor Eco, disgyblion a staff.

Rydym yn hynod falch o’n hysgolion sy’n gweithio’n ddiflino i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a gwella eu trefniadau gwyrdd.”

%d bloggers like this: